Newyddion S4C

Cynnal angladd Shane MacGowan yn Iwerddon

08/12/2023
Angladd Shane MacGowan

Mae angladd y cerddor Shane MacGowan yn cael ei gynnal yn Iwerddon ddydd Gwener.

Bu farw’r canwr, a ddaeth i enwogrwydd byd-eang gyda grŵp The Pogues, ar ddydd Iau 30 Tachwedd yn 65 oed.

Mae disgwyl i dorfeydd mawr o bobl ddod i dangos eu cefnogaeth wrth i'r orymdaith angladdol deithio ar hyd strydoedd Dulyn yn ystod y bore.

Yna, bydd y hers yn teithio i dref Nenagh, yn Sir Tipperary, ble bydd angladd cyhoeddus yn cael ei gynnal yn y prynhawn.

Image
Roedd gorymdaith yr angladd yn teithio drwy Ddulyn, cyn yr angladd yn Nenagh, Sir Tipperary
Mae gorymdaith yr angladd wedi teithio drwy Ddulyn, cyn yr angladd yn Nenagh, Sir Tipperary

Ymhlith y bobl y mae disgwyl iddynt fynychu’r angladd mae’r actor Johnny Depp, oedd yn was priodas i’r canwr diweddar, a’r cerddorion Nick Cave a Glen Hansard.

Bydd Arlywydd Iwerddon Michael D Higgins hefyd yn bresennol.

Wrth roi teyrnged iddo yn dilyn ei farwolaeth, dywedodd Michael D Higgins: "Bydd Shane yn cael ei gofio fel un o delynegwyr mwyaf cerddoriaeth. Byddai cymaint o’i ganeuon wedi bod yn gerddi crefftus perffaith, pe na fyddai hynny wedi’n hamddifadu o’r cyfle i’w glywed yn eu canu.

"Mae ei eiriau wedi cysylltu Gwyddelod ledled y byd â’u diwylliant a’u hanes, gan gwmpasu cymaint o emosiynau dynol yn y ffyrdd mwyaf barddonol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.