Newyddion S4C

Pam oedd yr awyr yn binc llachar nos Iau?

08/12/2023
awyr pinc/porffor

A welsoch chi’r awyr pinc nos Iau? 

Toc cyn 16:00 brynhawn dydd Iau, fe wnaeth yr awyr droi yn lliw pinc llachar, yn hytrach na choch neu oren, sy'n arferol wrth i'r haul fachlud yn ystod yr adeg yma o'r flwyddyn.

Fe wnaeth llawer ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda rhai yn gofyn beth oedd wedi achosi'r ffenomen anarferol?

Yn ôl y dyn tywydd Derek Brockway, roedd y rheswm oherwydd ongl isel pelydrau'r haul wrth i'r haul fachlud, gan arwain at donfeddi pinc yn goleuo gwaelod y cymylau. 

Esboniodd bod y cymylau pinc hyn yn gorgyffwrdd â’r awyr las dywyll.

Gall y cyfuniad o’r lliwiau pinc a glas tywyll wneud i'r awyr edrych yn borffor, ychwanegodd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.