Billy Joel i berfformio yng Nghaerdydd fis Awst nesaf
Mae'r cerddor byd-enwog Billy Joel wedi cyhoeddi y bydd yn perfformio yng Nghaerdydd ym mis Awst 2024.
Dyma fydd unig ymddangosiad y canwr o Efrog Newydd yn Ewrop y flwyddyn nesaf, ac fe fydd yn cael cwmni Chris Isaak fel gwestai arbennig yn Stadiwm Principality ar ddydd Gwener 9 Awst.
Hwn fydd perfformiad cyntaf y cyfansoddwr yn y brifddinas.
Mae ei ganeuon poblogaidd yn cynnwys 'Piano Man', 'Uptown Girl' a 'We didn't start the fire', ac fe fydd tocynnau'n mynd ar werth ar 15 Rhagfyr.
Mae Billy Joel yn un o'r enwau cerddorol amlycaf i ddod allan o America yn yr hanner can mlynedd ddiwethaf - ac mae 33 o'i ganeuon wedi cyrraedd siartiau'r 40 uchaf yn ystod ei yrfa
Dechreuodd yr yrfa honno ym 1973, pan y gwnaeth fwynhau llwyddiant gyda 'Piano Man' - cân hunangofiannol.
Ers y dyddiau cynnar hynny mae wedi ei enwebu am 23 o wobrau Grammy a mwynhau llwyddiant ar hyd a lled y byd.