Newyddion S4C

Norofeirws: Cau wardiau i gleifion newydd yn un o ysbytai'r gogledd

08/12/2023
Google
Ysbyty Maelor Wrecsam
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi eu bod wedi gorfod cau "nifer fach o wardiau" yn un o ysbytai'r gogledd mewn ymgais i atal yr haint Norofeirws rhag ymledu.  
 
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd fod achosion o'r haint ar gynnydd "yn ein cymunedau yng ngogledd-ddwyrain Cymru a'r ochr draw i'r ffin."
 
O ganlyniad mae nifer o wardiau ar gau i gleifion newydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar hyn o bryd.
 
Mae norofeirws fel arfer yn arwain at symptomau o chwydu a/neu ddolur rhydd ynghyd â chrampiau yn y stumog a chur pen, ond fel arfer, maent yn gwella drostynt eu hunain o fewn dau neu dri diwrnod ar ôl gorffwys. 
 
Ond mae'n hynod heintus ac fe ddywedodd y bwrdd iechyd y gall ymledu'n hawdd mewn lleoliadau gofal a gall fod yn fwy difrifol i bobl sydd eisoes yn sâl, y rhai sy'n ifanc iawn a'r henoed.
 
Dywedodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Nyrsio a Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Hoffem achub ar y cyfle i atgoffa pobl i sicrhau eu bod yn golchi eu dwylo'n rheolaidd gyda sebon a dŵr a hynny bob amser cyn ymweld â'n hysbytai a lleoliadau gofal eraill ac ar ôl hynny. Nid yw hylifau diheintio bob amser yn lladd norofeirws.
 
"Peidiwch ag ymweld â ffrindiau a pherthnasau yn yr ysbyty os ydych yn sâl, os ydych wedi bod â dolur rhydd a/neu'ch bod wedi bod yn chwydu dros y 48 awr flaenorol neu os ydych wedi cael cysylltiad ag unrhyw un sydd wedi bod â symptomau dros y 48 awr ddiwethaf.
 
"Mae'n bwysig i ni gyd gyflawni ein rhan i leihau effaith Norofeirws i gleifion, staff ac ymwelwyr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.