Newyddion S4C

Cannoedd o weithwyr Oxfam i streicio am y tro cyntaf yn hanes yr elusen

08/12/2023
Oxfam Abertawe

Mae disgwyl i gannoedd o weithwyr Oxfam streicio o ddydd Gwener am y tro cyntaf yn hanes yr elusen mewn anghydfod dros gyflog.

Bydd aelodau Unite sy’n gweithio mewn mwy na 200 o siopau a swyddfeydd Oxfam yn streicio am 17 diwrnod drwy gydol mis Rhagfyr.

Dywedodd yr undeb fod cyflogau cyfartalog wedi cael eu torri 21% ers 2018.

Yn ôl Unite, fe waneth 83% o weithwyr Oxfam gefnogi gweithredu diwydiannol mewn pleidlais. 

Daw hyn ar ôl iddynt wrthod codiad cyflog o 6%, ynghyd â thaliad un tro o £1,000 i’r rhai sy’n ennill y cyflogau isaf medd yr Undeb.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham: “Mae Oxfam eisiau rhoi terfyn ar dlodi ac yn dweud ei fod ar ochr yr undebau ond mae ei gweithwyr ei hun yn son am ddefnyddio banciau bwyd. 

“Mae'r elusen yn gwrthod ymgysylltu â'r unig undeb sy'n cynrychioli’r gweithlu ac yn ystyried defnyddio llafur di-dâl i dorri ar y streic.”

“Mae hyn yn rhagrith gan sefydliad a ddylai wybod yn well.”

Mae’r undeb wedi rhybuddio y bydd y gweithredu diwydiannol yn dwyshau os na fydd yr anghydfod yn cael ei ddatrys. 

Dywedodd llefarydd ar ran Oxfam: “Er ein bod yn siomedig bod y streic yn mynd yn ei blaen, rydym yn deall rhwystredigaeth cydweithwyr sy’n wynebu costau byw sy’n codi’n aruthrol.

“Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i darfu cyn lleied â phosibl ac i gefnogi’r holl gydweithwyr – y rhai sydd ar streic a’r rhai sy’n gweithio – drwy’r cyfnod hwn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.