Pwysau cynyddol ar Rishi Sunak wedi i gost polisi Rwanda gael ei ddatgelu
Mae Rishi Sunak yn wynebu pwysau o’r newydd dros ei bolisi ar Rwanda ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod cost y cynllun eisoes wedi cyrraedd £240 miliwn, er nad yw wedi cael ei weithredu hyd yma.
Fe wariodd Llywodraeth y DU £100 miliwn ychwanegol ym mlwyddyn ariannol 2023-24 heb i unrhyw geisiwr lloches gael eu hanfon i Rwanda, yng nghanol cyfres o rwystrau cyfreithiol, a hynny ar ben y £140 miliwn a dalwyd yn flaenorol.
Yn ôl llythyr gan y Swyddfa Gartref at gadeiryddion pwyllgorau yn San Steffan, mae gweinidogion yn disgwyl cost bellach o £50 miliwn yn y flwyddyn i ddod, a fyddai’n dod â’r cyfanswm i £290 miliwn.
Daw hyn ychydig oriau ar ôl i Mr Sunak addo “gorffen y gwaith” o adfywio ei gynllun i alltudio rhai ceiswyr lloches i Kigali er gwaethaf gwrthwynebiad rhai Torïaid a’r posibilrwydd o frwydr seneddol danllyd.
Taliadau
Mewn llythyr a gyhoeddwyd ddydd Iau at y Fonesig Diana Johnson, cadeirydd y Pwyllgor Materion Cartref, a’r Fonesig Meg Hillier, cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ysgrifennodd swyddog y Swyddfa Gartref Matthew Rycroft: “Mae gweinidogion wedi cytuno y gallaf ddatgelu’r taliadau hyd yma ym mlwyddyn ariannol 2023-24.
"Cafwyd un taliad o £100 miliwn, a dalwyd ym mis Ebrill eleni fel rhan o’r Gronfa Trawsnewid ac Integreiddio Economaidd....
“Nid yw Llywodraeth y DU wedi talu mwy i Lywodraeth Rwanda hyd yn hyn. Roedd hyn yn gwbl ar wahân i’r Cytundeb – ni ofynnodd Llywodraeth Rwanda am unrhyw daliad er mwyn i'r Cytundeb gael ei lofnodi, ac ni chynigwyd un.”
Fe wnaeth Llafur ddisgrifio’r newyddion fel datblygiad “anhygoel”, gydag ysgrifennydd cartref yr wrthblaid, Yvette Cooper, yn dweud: “Faint arall o sieciau gwag y bydd Rishi Sunak yn eu hysgrifennu cyn i’r Torïaid gyfaddef fod y cynllun hwn yn ffars llwyr?
“Yn syml, ni all Prydain fforddio mwy o’r anhrefn costus yma gan y Ceidwadwyr.”
Gobaith y Llywodraeth yw rhuthro deddfwriaeth frys drwy’r Senedd er mwyn i ASau ac arglwyddi ddatgan bod Rwanda yn gyrchfan ddiogel i geiswyr lloches.
Fe fydd ASau yn cael eu cyfle cyntaf i drafod a phleidleisio ar Fesur Diogelwch Rwanda (Loches a Mewnfudo) ddydd Mawrth.
O dan gynllun y Llywodraeth, a gyhoeddwyd gyntaf ym mis Ebrill 2022, gallai pobl sy’n cyrraedd y DU drwy ddulliau afreolaidd, megis ar gychod bach, gael eu hanfon ar daith un ffordd i Rwanda, lle byddai llywodraeth Kigali yn penderfynu ar eu statws ffoaduriaid.
Llun: James Manning/PA Wire