Cyfle i drigolion Pwllheli drafod datblygiad y dref gyda Chyngor Gwynedd
Cyfle i drigolion Pwllheli drafod datblygiad y dref gyda Chyngor Gwynedd
Pwllheli - tref sy'n fynedfa i arfordir deheuol Pen Llŷn. Tafliad carreg o fynyddoedd Eryri.
Yn naturiol, mae'n lle poblogaidd gyda thwristiaid. Er gwaethaf harddwch yr ardal dydy'r dref, a'r stryd fawr yn enwedig heb lwyddo i osgoi'r heriau economaidd sydd i'w gweld ar draws Cymru.
Mae'r stryd mor ddistaw. 'Dan ni angen pobl i ddod yma a gwahanol fusnesau i ail-agor. Ma' gen ti nifer o adeiladau hen yn yr ardal. Os nad ydy pobl yn mynd i gymeryd nhw 'mlaen maen nhw'n mynd i ddirywio ymhellach.
Dyma'r twr. Nawr mae'r gymuned wedi dod at ei gilydd i geisio rhoi hwb i economi'r dre.
Hon ydy'r dafarn 'di bod erioed neu ers blynyddoedd maith. Gobeithio fedrwn ni agor allan a rhoi lle tan.
Wedi ymgyrch llwyddiannus i godi £500,000 mae menter newydd wedi prynu hen westy'r Twr ar y stryd fawr.
'Sat ti'n sbïo ar y stryd fawr neu fel Pwllheli fel tre does 'na'm stafell gymunedol yma does 'na'm tafarn ar y stryd fawr does 'na ddim caffi ar y stryd fawr does 'na ddim gwesty o gwbl yn dre. Mae 'na ofyn mawr amdano fo. Efo'r buddsoddiad iawn, gall hwn fod y peth gorau sy 'di digwydd i Bwllheli ers blynyddoedd maith.
Mae 'na gynlluniau pellach yn y dre hefyd.
Mae 'na arian 'di dod i adnewyddu ochr yr harbwr i gyd.
Mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu gwario cannoedd ar filoedd o bunnau ar wahanol brosiectau, gan gynnwys y marina.
Bydd y Cyngor yn adnewyddu ochr yr harbwr.
Ma' gynnon ni ddatblygiadau ar gyfer campervans yn dod i dre a neud y cob, ac ar ben hynny ma' gynnon ni ymgynghoriad ar y funud ynglŷn a'r harbwr a'r dre a sut 'dan ni'n cysylltu'r ddau.
Rhan fawr o'r prosiectau sy'n digwydd yw'r gwaith gyda'r Twr.
Mae'n esiampl o'r gymuned yn cymryd cyfrifoldeb am Bwllheli fel tref.
Oes angen i'r Cyngor Sir wneud mwy chi'n meddwl?
Mae'r gymuned wedi cymryd cyfrifoldeb dros wella'r gymuned yma. Does 'na'm dwywaith am hynny. Mae'n digwydd mewn cymunedau ym mhob man.
Mae Menter y Twr 'di cael cefnogaeth y Cyngor yr holl ffordd drwodd. Fel rhan o'r cynlluniau, mae 'na ofyn ar drigolion lleol i rannu'r hyn maen nhw'n teimlo fyddai'n dod a'r manteision gorau i'r dref.
Mae 'na ddirywiad wedi bod. Mae o wedi effeithio ar y dref. Mae 'na waith ymchwil i weld be mae pobl y dref isio. Dim be 'dan ni fel Cyngor yn deud sydd orau iddyn nhw 'dan ni'n awyddus bod pobl dre yn cael rhoi mewnbwn i'r broses.
Gall trigolion rannu eu syniadau heno a fory cyn i Gyngor Gwynedd ystyried y camau nesaf yn y flwyddyn newydd.