Newyddion S4C

Ymddygiad honedig prif weithredwr S4C wedi cael ‘effaith sylweddol’ ar staff medd adroddiad

07/12/2023

Ymddygiad honedig prif weithredwr S4C wedi cael ‘effaith sylweddol’ ar staff medd adroddiad

Mae 'di bod yn gyfnod tywyll i S4C.

Wedi i ni dderbyn copi o lythyr gan Undeb Bectu yn honni bod 'na ddiwylliant o ofn o fewn i'r sefydliad fe gyhoeddodd cadeirydd y sianel ar y rhaglen hon bod ymchwiliad annibynnol i honiadau o fwlio yn cael ei gomisiynu.

Wedi chwe mis a mwy o aros, mae'r canfyddiadau wedi eu cyhoeddi.

Mae sawl gweithiwr a chyn-weithiwr yn S4C yn honni i Sian Doyle greu diwylliant o ofn yno.

Fe newidiodd yr awyrgylch yn llwyr wedi apwyntio Sian Doyle, meddai un.

Roedd ffrindiau a theulu yn poeni am fy iechyd meddwl, meddai un arall.

Ro'n o'n llefain lot ac yn methu cysgu.

Fe wnaeth ymchwilwyr glywed tystiolaeth gan 92 o unigolion. Nifer yn staff presennol S4C ac eraill yn gyn-weithwyr yno. Mae rhai yn honni i'r cyn-brif weithredwr ymddwyn mewn modd unbenaethol ac eraill yn dweud iddyn nhw glywed defnydd cyson o'r ymadrodd "shoot one and a thousand tremble" gan Ms Doyle.

Yn ôl un oedd wedi gweithio dan bum prif weithredwr yn y gorffennol doedd hi erioed wedi teimlo mor ddi-werth a thra'n gweithio i Sian Doyle.

Yn ôl un sydd yn siarad am y tro cyntaf heno am ei phrofiad o weithio yno - roedd gwneud hynny yn straen.

Roedd gadael S4C yn benderfyniad anodd iawn. Oedd o'n swydd, pan ddechreuais i, ro'n i'n caru gwneud. 'Swn i'n gweithio efo pobl gwych. Pawb mor frwdfrydig ac angerddol am y gwaith oeddan nhw'n deud ond buan iawn wnaeth yr awyrgylch newid yno.

Blwyddyn diwetha falle o fy nghyflogaeth yno wnaeth pethau fynd yn sur iawn. Roedd o'n anodd. Amodau anodd iawn i weithio oddi tanyn nhw.

Yn ôl un arall sydd wedi bod yn llafar ei feirniadaeth crafu wyneb y gwirionedd mae'r adroddiad.

Dw i'n meddwl roedd o'n anodd iawn i'r adroddiad adlewyrchu'r gwir sefyllfa oherwydd yr angen i ddileu enwau a hefyd i ddileu enghreifftiau lle fysa'n bosib adnabod pobl.

Felly, mewn gwirionedd, mi roedd y sefyllfa yn waeth na'r hyn sy'n cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad. Rhaid i mi ddeud, dw i'n falch bod yr adroddiad allan. Dw i'n falch dros y staff. Dw i'n falch dros y cyn-staff. Gobeithio rwan bod modd i bobl symud ymlaen.

Mewn datganiad, dywedodd Sian Doyle "Rwy'n drist iawn i weld adroddiad Capital Law."

"Dw i ddim yn nabod nac yn derbyn yr honiadau sydd yn cael eu gwneud."

"'Dyn nhw ddim yn adlewyrchu fy 30 mlynedd ym myd busnes."

"Gath yr adroddiad ei gomisiynu a'i ddelifro gan y cadeirydd felly dyw hi'n ddim syndod "i'r adroddiad ffocysu ar leiafrif o bobl."

"Chefais i ddim rhybudd bydde'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi heddiw a dw i heb gael cynnig i ymateb gan S4C."

"Fe alwais am ymchwiliad gan Lywodraeth San Steffan yr wythnos diwetha."

"Rwy'n galw am hynny eto nawr."

"Mae gweithwyr S4C a'r bobl maen nhw'n gwasanaethu yn haeddu gwell."

Mewn datganiad hir y prynhawn 'ma fe wnaeth aelodau awdurdod S4C ymddiheuro yn ddiffuant i rai sydd wedi goddef ymddygiad annerbyniol yn y gweithle ac am y gofid mae hyn wedi ei achosi.

"Mae'r tîm arweinyddiaeth dros dro eisoes wedi gwneud newidiadau cadarnhaol", meddai'r datganiad.

"Byddant yn parhau i sicrhau bod gennym gefnogaeth mewn lle dros yr wythnosau nesaf."

Mae pennod hefyd yn yr adroddiad i'r cyn-brif swyddog cynnwys Llinos Griffin-Williams gyda chyhuddiad ei bod hi'n micro-reoli ac iddi regi at staff ar noson gymdeithasol a chwythu mwg i wyneb cydweithiwr.

Mae sôn am gŵyn wnaeth hi am y cadeirydd.

Yn ôl yr awdurdod, doedd dim byd fyddai'n atal y cadeirydd rhag bod yn rhan o'r adolygiad parhaus ac mae pob penderfyniad yn y broses wedi bod yn unfrydol.

Dywedodd Llinos Griffin-Williams mewn datganiad: "Does dim tystiolaeth ohonof fi'n bwlio yn yr adroddiad."

"Mae'r feirniadaeth ohona i yn ymwneud a chyfathrebu'n wael a chanslo cyfarfodydd - a hynny gan nifer fach o bobl."

"Ches i ddim rhybudd bod yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi na chyfle i ymateb iddo fe."

"Rhaid i adran ddiwylliant Llywodraeth San Steffan ymateb."

Mae hi'n bwysig bod S4C yn rhoi enghraifft i bobl ar draws Cymru am sut mae'n ymddwyn. Dyw hwnna ddim yn meddwl er bod S4C yn cael lle yng nghalonnau pobl Cymru bod e'n ymddwyn fel mae'n moyn.

'Dan ni wedi gweld amryw o gyrff gwahanol gan gynnwys Plaid Cymru yn mynd trwy gyfnod anodd. Rhaid i ni rwan edrych o fewn cymdeithas... ..sut 'dan ni'n sicrhau bod math o ymddygiadau amhriodol sy'n dod allan yn amryw o adroddiadau gwahanol bod hyn yn arwain at newid diwylliant.

Tra bod nifer yn gobeithio bod yr adroddiad yn benllanw ar gwynion am fwlio yn S4C, mae rhai cwestiynau yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.