Perygl y gallai'r tymheredd byd-eang godi 1.5C am y 'tro cyntaf ar gofnod'
Mae perygl y gallai'r tymheredd ledled y byd gynyddu 1.5C yn uwch na lefelau cyn-ddiwydiannol am y tro cyntaf, yn ôl rhagolygon y Swyddfa Dywydd.
Mae ffrwyno cynhesu byd eang ar lefel o 1.5C yn un o brif amcanion Cytundeb Paris, sef cytundeb rhyngwladol er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Mae’r tymheredd cyfartalog yn amrywio’n naturiol, ac mae’n debygol y bydd cwymp yn y tymheredd yn y blynyddoedd sy’n dilyn 2024, gan gwympo o dan 1.5C unwaith eto.
Y gred yn ôl y Swyddfa Tywydd yw y bydd tymheredd cyfartalog y byd rhwng 1.34C a 1.58C yn uwch nag yr oedd rhwng 1850-1900 erbyn diwedd 2024 – gan nodi’r 11eg blwyddyn yn olynol i'r tymheredd gynyddu mwy na na 1C.
Yn ôl y rhagolygon, eleni fydd y flwyddyn boethaf erioed ar gofnod.
‘Arferion pobl’
Arferion pobl sydd wrth wraidd cynnydd yn y tymheredd, meddai llefarydd y Swyddfa Dywydd, Adam Scaife.
“Prif reswm dros dymereddau’n codi’n uwch nag erioed yw’r cynhesu parhaus mae dyn wedi achosi ers dechrau’r chwyldro diwydiannol,” meddai.
Ond mae El Nino, sef ffenomen naturiol sy’n achosi gwres i godi yn nwyrain trofannol y Môr Tawel, hefyd wedi achosi’r tymheredd i gynyddu.
Dywedodd Dr Nick Dunstone o’r Swyddfa Tywydd: “Mae’r rhagolygon yma’n unol â'r duedd cynhesu fyd-eang parhaus o 0.2C pob degawd, ac mae’r El Nino wedi cyfrannu at hyn hefyd.
“O ganlyniad, rydym yn disgwyl gweld dwy flynedd o dymereddau poethaf ar gofnod yn olynol.
“Ac, am y tro cyntaf, rydym yn rhagweld siawns resymol o’r tymheredd yn codi’n uwch na 1.5C am gyfnod.”
Fel rhan o Gytundeb Paris, cafwyd cytundeb i sicrhau na fydd tymereddau’n codi’n uwch na 1.5C gan ei fod yn cyrraedd lefel “beryglus” ac “ansefydlog.”