Cyn-Brif Weithredwr S4C yn yr ysbyty ddiwrnod ar ôl adroddiad damniol i’w hymddygiad
07/12/2023
Mae cyn-brif weithredwr S4C wedi cael triniaeth ysbyty ar ôl cymryd gorddos, meddai ei gŵr.
Cafodd canfyddiadau ymchwiliad cwmni cyfreithiol Capital Law i honiadau o fwlio yn S4C eu cyhoeddi ddydd Mercher.
Roedd yn dweud fod tystiolaeth staff yn amlygu ymddygiad honedig Sian Doyle "fel un a gafodd yr effaith fwyaf arwyddocaol negyddol ar yr amgylchedd waith ac awyrgylch o fewn S4C".
Dywedodd Ms Doyle nad oedd hi'n "cydnabod na derbyn" yr honiadau a wnaed yn yr adroddiad, ac mae wedi galw sawl tro ar Lywodraeth y DU i ymchwilio i arweinyddiaeth S4C.
Mewn datganiad drwy gwmni cysylltiadau cyhoeddus yn Llundain ddydd Iau dywedodd ei gŵr Rob Doyle ei fod yn “mynnu bod preifatrwydd fy ngwraig a fy nheulu'n cael ei barchu”.
Dywedodd llefarydd ar ran S4C: “Mae’r newydd am Sian Doyle yn bryderus iawn ac rydym ni yn meddwl amdani hi a’r teulu.
“Rydym yn cynnig cefnogaeth i’r teulu yn ystod y cyfnod anodd yma. Ein gobaith y bydd hi yn gwella yn fuan ac rydym ni yn dymuno’r gorau iddi.”
‘Pryderon’
Ychwanegodd Rob Doyle bod adroddiad Capital Law yn "unochrog" a bod Sian Doyle wedi ei “beirniadu yn hallt” yn y wasg dros y 24 awr diwethaf.
"Fel ei gŵr, mae'n rhaid i mi siarad nawr ar ei rhan," meddai Mr Doyle.
"Roedd Siân mor falch o fod wedi cael cais i ddod allan o'i hymddeoliad i arwain sefydliad yr oedd hi, fel merch ifanc, wedi ymgyrchu dros ei sefydlu,” meddai.
"Ond newidiodd y balchder yna'n rhwystredigaeth, ac yna siom, ofn ac yn olaf anobaith.”
Mae’r llythyr yn cynnwys beirniadaeth o Awdurdod S4C gan ddweud fod yna “ddiffyg gofal” wedi bod o Sian.
"Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth Siân alw ar Lucy Frazer, yr Ysgrifennydd Gwladol dros DCMS [Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon] sy'n gyfrifol am S4C, i ddechrau ymchwiliad i reolaeth y mudiad,” meddai.
"Mae Siân wedi ceisio ar sawl achos i godi pryderon gyda'r llywodraeth yn San Steffan, ond dyw'r ysgrifennydd wedi gwneud dim.
"Rydw i bellach yn mynnu bod preifatrwydd fy ngwraig a fy nheulu'n cael ei barchu, fel ei bod hi'n gallu, gyda gobaith, gwella ac fe allwn symud ymlaen gyda'n bywydau."
Dywedodd llefarydd ar ran DCMS: "Mae ein meddyliau a'n gweddiau gyda Ms Doyle a'i theulu ar yr adeg anodd yma, a rydym yn dymuno gwellhad buan iddi.
"Rydym yn disgwyl i fwrdd S4C fynd i'r afael ar frys a'r materion sydd wedi cael eu hadnabod yn ymchwiliad annibynnol Capital Law.
"Rydym wedi bod mewn cysylltiad parhaus gyda S4C yn ystod yr ymchwiliad yma, a bydd hynny'n parhau.
"Mae gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, fel pob corff, ddyletswydd o ofal i'w staff."