Newyddion S4C

Un o bob pedwar yn bwriadu rhoi anrhegion ail law y Nadolig hwn medd ymchwil

08/12/2023
S4C

Mae un o bob pedwar o bobl yn debygol o roi anrhegion ail law i ffrindiau neu deulu'r Nadolig hwn, yn ôl gwaith ymchwil newydd. 

Yn ôl ymchwil y Post Brenhinol, dywedodd hanner y bobl gafodd eu holi y byddan nhw’n “hapus” i dderbyn anrheg ail law, tra byddai un o bob pedwar yn "anhapus". 

Ond mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n bwriadu rhoi anrhegion ail law eleni hefyd wedi dweud y byddan nhw’n rhoi gwybod i'r sawl sy'n eu derbyn, gyda’r anrhegion mwyaf tebygol o gael eu rhoi’n cynnwys gemwaith, llyfrau, teganau a dillad. 

Prif resymau bobl am roi anrhegion ail law oedd ceisio gwario llai, yn ogystal â phryder am yr amgylchedd, meddai’r ymchwil. 

Dywedodd Nick Landon o'r Post Brenhinol bod modd gwneud defnydd o hen nwyddau trwy eu rhoi i bobl a fydd yn eu “gwerthfawrogi.”

Yn ôl ymchwil gan gwmni Amazon, dywedodd hanner y bobl gafodd eu holi eu bod “wrth eu bodd” yn chwilio am fargeinion ar eitemau ail-law. 

O’r 2,000 o bobl a gafodd eu holi, dywedodd un o bob tri eu bod nhw’n gwrthod talu’r pris llawn ar gyfer “unrhyw eitem.”

Ond dim ond un o bob pump o bobl oedd yn fodlon trwsio teclyn sydd wedi torri, gyda’r rhan fwyaf yn taflu eitemau diffygiol o'r neilltu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.