'Dim ond un ddiod' yw'r esgus mwyaf cyffredin dros yfed a gyrru
“Dim ond yfed un ddiod” yw’r esgus mwyaf cyffredin dros yfed a gyrru, medd arolwg newydd.
Dywedodd tri o bob pump o bobl a gafodd eu holi gan gwmni yswiriant AA bod pobl wedi defnyddio’r rheswm er mwyn cyfiawnhau gyrru ar ôl yfed diodydd sy’n cynnwys alcohol.
Roedd y rheiny wedi clywed yr esgus yma’n cael ei ddefnyddio, meddai’r arolwg a wnaeth holi oddeutu 12,000 o bobl.
Ond mae yfed “un ddiod yn unig” yn gallu bod yn ddigon i roi pobl dros y terfyn yfed a gyrru, yn ôl cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol yr AA.
“Hyd yn oed os ydych chi o fewn y terfyn, gall un ddiod dal effeithio eich gallu i yrru’n ddiogel,” meddai Edmund King.
“Mae angen i yrwyr rhoi’r gorau i’r esgusodion yma. Dyw yfed a gyrru ddim yn cyd-fynd – os ydych chi am wneud un, peidiwch â gwneud y llall.”
Yn ôl ffigurau mwyaf diweddar Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU, mae'r nifer o bobl a fu farw o ganlyniad i wrthdrawiad oherwydd yfed a gyrru ar ei lefel uchaf ers 12 mlynedd. Cafodd 260 o bobl eu lladd mewn damweiniau o'r fath yn y DU yn 2021.
Terfyn
Ymhlith y rhesymau eraill a gafodd eu defnyddio i gyfiawnhau yfed a gyrru, dywedodd 41% o bobl eu bod nhw wedi clywed rhai yn honni y byddai’r bwyd roedden nhw eisoes wedi ei fwyta yn “amsugno’r alcohol.”
Dywedodd 40% eu bod nhw hefyd wedi clywed pobl yn dweud eu bod nhw “dim ond yn gyrru pellter byr” fel esgus arall, tra bod 31% o bobl wedi clywed unigolion yn honni bod yna “sbel” ers eu diod olaf.
Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, y terfyn dros beidio yfed a gyrru yw 80mg o alcohol mewn 100ml o waed.
Mae gan bob gwlad arall yn Ewrop derfyn o 50mg/100ml, gan gynnwys yr Alban, wnaeth ostwng y terfyn yn 2014.
Mae pobl sy’n torri’r gyfraith wrth yfed a gyrru yn wynebu cael eu gwahardd rhag gyrru am o leiaf blwyddyn a chael dirwy ddiderfyn. Gall rhai pobl cael eu carcharu mewn amgylchiadau difrifol.