Newyddion S4C

Y bardd, awdur a'r cerddor Benjamin Zephaniah wedi marw yn 65 oed

07/12/2023
Benjamin Zephaniah

Mae'r bardd, awdur a'r cherddor Benjamin Zephaniah wedi marw yn 65 oed yn dilyn cyfnod o salwch.

Cyhoeddwyd neges ar ei gyfrif Instagram yn dweud ei fod wedi derbyn diagnosis o diwmor ar yr ymennydd wyth wythnos yn ôl.

Dywedodd teulu Mr Zephaniah mewn datganiad: “Gyda thristwch a gofid mawr y gwnaethom gyhoeddi marwolaeth ein hannwyl ŵr, mab a brawd yn oriau mân y bore yma 7 Rhagfyr 2023.

“Cafodd Benjamin ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd wyth wythnos yn ôl.

“Roedd gwraig Benjamin wrth ei ochr ac roedd gydag ef pan basiodd.

“Fe wnaethon ni ei rannu gyda’r byd ac rydyn ni’n gwybod y bydd llawer mewn sioc a thristwch o glywed y newyddion hyn.

“Roedd Benjamin yn arloeswr go iawn, fe roddodd gymaint i’r byd. Trwy yrfa anhygoel gan gynnwys corff enfawr o gerddi, llenyddiaeth, cerddoriaeth, gwaith teledu, a radio, mae Benjamin yn ein gadael ag etifeddiaeth lawen a gwych.

“Diolch am y cariad rydych chi wedi’i ddangos i’r Athro Benjamin Zephaniah.”

Gwaith

Cafodd y bardd, a gafodd ei yn Birmingham, ei enwebu ar gyfer hunangofiant y flwyddyn yn y Gwobrau Llyfrau Cenedlaethol am ei waith, The Life And Rhymes Of Benjamin Zephaniah , ac roedd hefyd ar restr fer Gwobr Llyfr Costa yn 2018.

Cafodd ei gddiarddel o'r ysgol yn 13 oed, ac nid oedd yn gallu darllen nac ysgrifennu pan yn ifanc, ac roedd ganddo ddyslecsia.

Yn ystod ei 20au teithiodd i Lundain lle cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf Pen Rhythm.

Roedd ei ysgrifau cyntaf yn defnyddio barddoniaeth dub, arddull gwaith Jamaica sydd wedi datblygu i genre cerddoriaeth o'r un enw, a byddai hefyd yn perfformio gyda'r grŵp The Benjamin Zephaniah Band.

Fe wnaeth wrthod OBE yn 2003 oherwydd cysylltiad yr anrhydedd â'r Ymerodraeth Brydeinig a'i hanes o gaethwasiaeth.

Ymddangos hefyd yn y gyfres deledu Peaky Blinders fel Jeremiah Jesus.

Yr iaith Gymraeg

Fe wnaeth Benjamin Zephaniah ymweld a'r Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod yn 2015.

Dywedodd ei fod wedi mwynhau clywed y Gymraeg yn cael ei siarad ar y maes ar y pryd.

“Mae hwn yn ffordd o ddod a phobl Gymreig at ei gilydd, i ddathlu diwylliant Cymreig.

“Ac i bobl fel fi, sydd ddim yn deall gair o Gymraeg i gael brofi’r iaith, dwi’n hoffi bod yma.

“Yr unig Saesneg dwi’n clywed yw pan mae pobl yn siarad gyda fi."

Mewn cyfweliad gyda'r BBC yn 2015 fe alwodd am ddysgu’r Gymraeg mewn ysgolion yn Lloegr.

Dywedodd y dylai disgyblion fod â mwy o ymwybyddiaeth o'r "gwahanol ddiwylliannau ac ieithoedd" o fewn Prydain.

"Mae Hindi, Tsieinëeg a Ffrangeg yn cael eu dysgu [mewn ysgolion], felly pam lai Cymraeg? A pham lai Cernyweg? Maen nhw'n rhan o'n diwylliant," meddai.

"Weithiau rydyn ni'n anghofio bod yna ddiwylliannau lleol sy'n wahanol iawn i ddiwylliant a llenyddiaeth prif ffrwd Saesneg."

Dywedodd y byddai "wrth ei fodd yn dysgu Cymraeg" ond ychwanegodd ei bod yn "rhy hwyr yn ôl pob tebyg".

Wrth ymateb i farwolaeth Benjamin Zephaniah, dywedodd y digrifwr a'r cyflwynydd Tudur Owen, fu'n ei holi yn ystod ei ymweliad a'r Eisteddfod: "Trist ofnadwy a cholled enfawr i ni gyd. Ffrind i Gymru a llais cyfiawn mewn storm o lygredd."

Llun gan David Morris.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.