Parc Cenedlaethol Eryri'n cefnogi'r egwyddor o osod cyfyngiadau cynllunio ar ail dai
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cyhoeddi eu bod yn cefnogi cynlluniau i gyflwyno 'Cyfarwyddyd Erthygl 4' fyddai'n gwneud hi'n angenrheidiol i wneud cais cynllunio cyn troi cartref yn ail dŷ neu dŷ gwyliau.
Daw hyn wedi i'r Parc amlinellu'r nifer uchel a chynyddol o ail gartrefi a thai gwyliau yn Eryri, sydd yn eu tro yn cael effaith niweidiol ar allu pobl leol i brynu tai yn yr ardal medd swyddogion.
Dywed y Parc mai'r cam nesaf fydd i ddiweddaru 'papur cyfiawnhau' cyn y bydd yn cael ei gyflwyno i aelodau'r Awdurdod y flwyddyn nesaf mewn ymgais i gyflwyno rheolau Erthygl 4 yn Eryri.
Mae'r Parc hefyd yn cydnabod fod hon yn broses sydd yn gofyn am "staffio ac adnoddau ariannol sylweddol".
Mae hyn yn cynnwys ymgyrch gyfathrebu a chyhoeddusrwydd sylweddol, cyfnod rhybudd o 12 mis a hefyd cyhoeddi hysbysiad ffurfiol.
Bwriad y tîm polisi cynllunio o fewn yr Awdurdod yw diweddaru'r gwaith ymchwil yn y papur cyfiawnhau i gyflwyno'r Cyfarwyddyd Erthygl 4 - cyn symud ymlaen i asesu effaith ar 'Nodweddion Cydraddoldeb, y Gymraeg ac Anfantais Economaidd'.
Byddant wedyn yn paratoi Rhybudd Cyhoeddus Erthygl 4 cyn paratoi'r Cyfarwyddyd Erthygl 4 ei hun.
Amserlen
Gobaith y swyddogion polisi cynllunio fyddai cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Cynllunio ym mis Ionawr neu Fawrth y flwyddyn nesaf.
Pe bai'r Awdurdod yn penderfynu ymgysylltu ar Gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4, byddai yna wedyn ymgynghoriad cyhoeddus yng ngwanwyn 2024, cyn ysgrifennu adroddiad ar sail ymatebion y cyhoedd, i benderfynu os oes modd cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4.
Os ydy'r Awdurdod yn penderfynu ei gadarnhau, byddai'n dod i rym 12 mis yn ddiweddarach yng Ngwanwyn 2025.
Inline Tweet: https://twitter.com/Cymdeithas/status/1732425367418442058
Mae'r Awdurdod yn awyddus hefyd i barhau i gael trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd er mwyn derbyn adnoddau cynllunio ychwanegol yn y tymor hir er mwyn sicrhau llwyddiant Erthygl 4 yn Eryri medd swyddogion y Parc.
Ychwanegon nhw fod y broses hon yn golygu bod angen oedi'r broses o ddiwygio Cynllun Datblygu Lleol Eryri am y tro.
Wrth ymateb, dywedodd Cymdeithas yr Iaith eu bod yn "croesawu penderfyniad Parc Cenedlaethol Eryri i fwrw ymlaen â pharatoi ar gyfer cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4, fyddai'n gwneud caniatâd cynllunio yn orfodol cyn troi cartref parhaol yn ail dŷ neu dŷ gwyliau. Erfyniwn ar awdurdodau cynllunio eraill i ddilyn yr esiampl hon."