Newyddion S4C

Ymgyrch i gadw trysorau o'r Oes Efydd yng Ngheredigion

06/12/2023

Ymgyrch i gadw trysorau o'r Oes Efydd yng Ngheredigion

Oes 'na drysor yn y bryniau yma?

Mae'n gwestiwn fydd sawl un yn gofyn ar ôl i gelc o waith metel gael ei ddarganfod ar gyrion Llangeitho yng Ngheredigion dair blynedd yn ôl.

Dros 50 o ddarnau efydd gan gynnwys tlysau, tŵls ac arfau oedd, tan yn ddiweddar, wedi'u cuddio dan y tir.

Roedd e yn dipyn o sioc. Cyffro mawr clywed am y fath gasgliad. Ddim yn ystyried ar y pryd pa mor sylweddol oedd e a maint y casgliad a dyna'r ymateb yn gyffredinol sy gyda pob un.

"Waw - dyna faint y casgliad."

A'r ffaith bon ni falle, bon ni gyd yn cerdded dros dir sydd yn llawn hanes Oes Efydd hefyd.

Mae'n adio i'r cyffro os liciwch chi. Roedd gan y ddau nath ddarganfod y celc bythefnos i'w gyflwyno i'r awdurdodau dan y Ddeddf Drysor.

Fe fyddai peidio'i gyflwyno wedi arwain at ddirwy neu dri mis o garchar. Fe gafodd pris o £4,200 ei osod ar y trysor ac Amgueddfa Ceredigion oedd yr amgueddfa leol wedi cael y cynnig i'w brynu.

Prin iawn yw darganfyddiadau fel hyn yng Ngheredigion.

Serch 'nny, mae 'na ambell i wrthrych yma o'r Oes Efydd a gobaith cyfeillion yr amgueddfa yw dychwelyd y trysor diweddaraf 'ma i'r sir.

Wel, mae e'n ddarganfyddiad anhygoel a ni wrth ein boddau bod yr amgueddfa wedi cael cynnig y celc er mwyn ei ddiogelu fe a hefyd er mwyn arddangos e yn ei fro enedigol oherwydd mae e 'di bod yma yn gudd ers dros 3,000 o flynyddoedd ac wrth gwrs nawr, mae pawb yn mynd i gael cyfle i weld e ac i'w fwynhau ac i ryfeddu at y gwaith cywrain sy wedi mynd mewn i wneud e.

Mae'r ymgyrch yn derbyn cefnogaeth gan Amgueddfa Cymru sy'n dweud y dylai trysorau gael eu cadw mor agos â phosib i lle cafon nhw eu darganfod ond mae'r cam cychwynnol o gyflwyno unrhyw ddarganfyddiadau yn hollbwysig yn ôl un arbenigwr.

O ran y wybodaeth mae'r eitemau'n gallu rhoi i ni hefyd er mwyn deall lle mae eitemau penodol yn dod i fyny.

Gall edrych ar y ffordd mae'r eitemau wedi cael eu creu ac hefyd, sut maen nhw wedi cael eu rhoi yn y llawr.

Ydyn nhw wedi cael eu colli disgyn allan o boced rhywun neu ydyn nhw'n rhywbeth sydd wedi cael eu rhoi yn benodol mewn rhywle mewn seremoni o fath?

Be yn union ydy'r broses a'r wybodaeth gallwn ni gael allan o'r eitemau yma yn hytrach na codi nhw a rhywun yn jyst rhoi nhw mewn bocs ac anghofio amdanyn nhw?

Hyd yma, mae'r ymgyrch ar-lein wedi codi dros £2,700.

Y Cardis yn barod i roi dwylo yn eu pocedi er mwyn cadw'r trysor adre.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.