Ymddygiad honedig prif weithredwr S4C wedi cael ‘effaith sylweddol’ ar staff medd adroddiad
Ymddygiad honedig prif weithredwr S4C wedi cael ‘effaith sylweddol’ ar staff medd adroddiad
Mae adroddiad hir-ddisgwyliedig i'r amgylchedd gwaith o fewn S4C yn dweud fod tystiolaeth staff yn awgrymu bod ymddygiad honedig y prif weithredwr Sian Doyle wedi cael “effaith sylweddol” ar weithwyr.
Mae'r adroddiad gan gwmni cyfreithiol Capital Law a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher yn dweud fod tystiolaeth staff yn amlygu ymddygiad honedig Sian Doyle "fel un a gafodd yr effaith fwyaf arwyddocaol negyddol ar yr amgylchedd waith ac awyrgylch o fewn S4C".
Dywedodd yr adroddiad fod “amgylchedd gwaith” S4C wedi ei effeithio'n "negyddol” gan yr honiadau gan achosi “anhrefn, anfodlonrwydd ac anghytuno".
Wrth drafod casglu tystiolaeth gan staff, dywedodd yr adroddiad: "Yn ystod y Broses, daeth lles rhai o'r cyfranogwyr yn bryder, oherwydd eu bod yn amlwg yn anghyfforddus a/neu wedi'u cynhyrfu a rhai yn torri lawr yn ystod ein cyfarfodydd â nhw, yn enwedig wrth fanylu ar eu teimladau am yr amgylchedd waith a'r awyrgylch o fewn S4C.
"Yn ystod ein cyfarfodydd, torrodd 10 o’r cyfranogwyr i lawr yn crio, yn bennaf wrth drafod eu profiadau yng ngweithle S4C."
Mewn ymateb, dywedodd Sian Doyle ei bod wedi ei "thristhau" yn dilyn cyhoeddiad yr adroddiad, gan ychwanegu nad ydy hi’n ‘‘adnabod nac yn derbyn yr honiadau".
"Dwi’n gwybod o brofiad nad yw newid sefydliadol yn hawdd a thra bod mesurau wedi cael eu rhoi mewn lle i gefnogi cyflogwyr, mae’n glir fod rhai wedi parhau i deimlo yn anghyfforddus ar gyflymder disgwyliedig y newid er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau ar gyfer y gynulleidfa yng Nghymru," meddai.
Cafodd ei diswyddo fis diwethaf gan Awdurdod S4C. Mae modd darllen adroddiad Capital Law yma.
'Thema glir'
Nid oedd llawer o'r enghreifftiau a ddarparwyd i Capital Law wedi'u profi gan dystiolaeth ddogfennol, na thystiolaeth gan fwy nag un tyst, meddai'r adroddiad "ond roedd yna thema glir".
Fe wnaeth Capital Law dderbyn 116 o enghreifftiau o ymddygiad Sian Doyle "a 101 ohonyn nhw wedi eu categoreiddio fel ymddygiad drwg honedig".
Dywedodd yr adroddiad fod ei hymddygiad honedig yn thema oedd yn codi “eto ac eto” yn nhystiolaeth y rheini o S4C oedd wedi penderfynu cyfrannu yn ddienw.
"Adroddwyd fod y Prif Weithredwr wedi ei gwneud yn eglur bod angen pryder yn hytrach nag ymddiriedaeth er mwyn cyflawni newid yn y gweithle a’u bod yn deall bod y Prif Weithredwr am i staff deimlo'n ansicr yn y gwaith i gyflawni’r newid," meddai.
Ond clywodd yr adroddiad hefyd gan aelodau o staff oedd yn dweud fod Sian Doyle yn “gefnogol” ac yn “uchelgeisiol”.
"Roedd Sian Doyle a’i hymddygiad yn thema amlwg a godwyd dro ar ôl tro," meddai yr adroddiad.
"Cawsom enghreifftiau o’i hymddygiad hi gan gyn-weithwyr, trydydd partïon a gweithwyr presennol o bob un o dair swyddfa S4C, o wahanol lefelau o fewn y sefydliad ac o wahanol adrannau.
"O ystyried nifer y cyfranogwyr a wnaeth sylwadau, a nifer yr enghreifftiau a roddwyd, amlygwyd ymddygiad Sian Doyle fel un a gafodd yr effaith fwyaf arwyddocaol negyddol ar yr amgylchedd waith ac awyrgylch o fewn S4C."
‘Heriol’
Dywedodd yr Awdurdod fis diwethaf wrth ddiswyddo Sian Doyle eu bod nhw wedi ystyried canfyddiadau adroddiad Capital Law cyn gwneud hynny.
Fe wnaeth Siân Doyle ryddhau datganiad a oedd yn hynod feirniadol o'r penderfyniad i'w diswyddo ac mae hi wedi dweud nad oedd hi wedi gweld yr adroddiad cyn cael gwybod y penderfyniad.
Yr wythnos diwethaf galwodd ar Lywodraeth y DU i gynnal ymchwiliad i'r sianel ac i ymddygiad cadeirydd S4C, Rhodri Williams.
Wrth gyhoeddi'r adroddiad fe ddywedodd Awdurdod S4C yr hoffen nhw "ymddiheuro yn ddiffuant i'r rhai sydd wedi gorfod goddef ymddygiad annerbyniol yn y gweithle ac am y gofid y mae hyn wedi ei achosi".
"Hoffem ddiolch i chi am fod yn agored ac yn onest wrth rannu eich profiadau, gan ein galluogi i adnabod y methiannau a amlygwyd yn adroddiad heddiw," medden nhw.
"Mae Awdurdod S4C wedi ymrwymo i sicrhau bod S4C yn fan lle mae ein cydweithwyr yn hapus ac yn ddiogel – lle maen nhw'n teimlo y gallant berfformio ar eu gorau a ffynnu.
"Rydym yn cydnabod bod angen gwaith sylweddol i roi ffyrdd newydd o weithio ar waith a fydd yn caniatáu i S4C adeiladu dyfodol cadarnhaol gyda gweithlu creadigol a chefnogol.
"I wneud hynny, mae angen i ni adfer hyder ac ymddiriedaeth ymhlith ein staff, sydd â rhan mor allweddol i'w chwarae yn llwyddiant y sefydliad yn y dyfodol.
"Yn hanfodol i'r llwyddiant hwnnw mae arweinyddiaeth sy'n canolbwyntio ar gydweithio a chyfathrebu.
"Fel Awdurdod, gwnaethom benderfynu y byddai hyn yn gofyn am arweinyddiaeth newydd yn S4C, a byddwn yn gwneud cyhoeddiadau pellach cyn bo hir am y broses honno."
'Peri cryn bryder'
Mae Pwyllgor Diwylliant y Senedd wedi galw ar aelodau o Fwrdd S4C i roi tystiolaeth yr wythnos nesaf yn sgil cyhoeddi'r adroddiad.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn y Senedd Delyth Jewell AS: "Mae’r honiadau parhaus yn y cyfryngau ynghylch S4C yn peri cryn bryder. Gan fod sibrydion a dyfalu ar led, mae'r Pwyllgor yn awyddus i'r cwestiynau hyn gael eu hateb yn gyhoeddus. Rydym yn gwahodd Cadeirydd ac un aelod o Fwrdd S4C i roi tystiolaeth yr wythnos nesaf i roi eglurder i bobl Cymru.
"Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw llwyddiant S4C i’r Gymraeg a Chymru fel gwlad ac fe fyddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gael atebion gan arweinyddiaeth y sianel dros yr wythnosau nesaf."
Mae Plaid Cymru wedi dweud bod angen i'r adroddiad fod yn 'drobwynt' i'r sianel.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar ddiwylliant Heledd Fychan AS: "Mae'r adroddiad hwn yn ysgytwol ac angen bod yn drobwynt i’r sianel.
"Hoffwn ganmol staff S4C a siaradodd yn erbyn ymddygiad gwael o dan amgylchiadau eithriadol o anodd.
"Edrychwn ymlaen at ymgysylltu ag S4C yn ystod craffu seneddol yn y Senedd ac yn San Steffan i geisio sicrwydd bod y camau priodol yn cael eu cymryd i adfer hyder yn ein sianel."