Newyddion S4C

Powys: Gyrrwr wedi marw a phlentyn wedi dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad

17/11/2024
A483 Belan, Y Trallwng

Mae'r heddlu wedi arestio dau ddyn wedi i berson farw a phlentyn ddioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad rhwng tri char ym Mhowys.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i’r A483 yn y Belan, ger Y Trallwng, am 18:15 nos Sadwrn yn dilyn adroddiad o wrthdrawiad.

Roedd BMW X3 coch a Audi S4 glas yn teithio tua'r gogledd a Toyota Yaris gwyn yn teithio tuag at y de.

Bu farw gyrrwr y Toyota Yaris yn y fan a'r lle.

Cafodd plentyn oedd yn yr un car anafiadau difrifol, a chafodd ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr.

Mae'r crwner wedi cael gwybod ac mae swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i'r teulu.

Mae dyn 29 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau ac achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Mae dyn 33 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Cafodd y ffordd ei chau dros nos tra bod yr heddlu yn parhau gyda'u hymchwiliad.

Agorwyd y ffordd eto am 09:50 fore Sul.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, oedd yn teithio ar y ffordd adeg y gwrthdrawiad neu gyda lluniau cylch cyfyng, i gysylltu trwy ddyfynnu'r cyfeirnod DP-20241117-254.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.