'Mi oedd ’na ddau Huw': Y darlledwr Beti George yn ymateb i droseddau ei 'ffrind', Huw Edwards
'Mi oedd ’na ddau Huw': Y darlledwr Beti George yn ymateb i droseddau ei 'ffrind', Huw Edwards
Mae’r darlledwr Beti George wedi siarad am y tro cyntaf am ei hymateb i droseddau Huw Edwards.
Cafodd y cyn gyflwynydd BBC News at Ten ei ddedfrydu ym mis Medi 2024 o greu delweddau anweddus o blant.
Daeth y newyddion fel sioc enfawr i Beti George.
Wrth siarad â rhaglen Y Byd ar Bedwar, dywedodd Beti George fod y troseddau “yn wrthun ac yn ffiaidd, ac alla i ddim dechre deall.”
Er hyn, mae’n dal i gyfeirio ato “fel ffrind”, a na fyddai hi “byth yn gallu troi fy nghefn arno fe."
“Mae e ’di colli popeth yn dyw e, a cholli enw da, falle, yn fwy na dim.
“Dyw’r Huw dw i’n ’nabod, neu o’n i’n meddwl bo’ fi’n nabod, byth yn neud rhywbeth fel ’na, wel, pwy fyse yn ei iawn bwyll?”
‘Dim cyfiawnhau yr hyn wnaeth e’
Bu Beti George a Huw Edwards yn cydweithio’n agos yn y BBC yng Nghaerdydd fel newyddiadurwyr a chyd-gyflwynwyr ar sawl rhaglen etholiad.
“O’dd e mor alluog ac yn llawn egni”, meddai Beti George wrth hel atgofion am weithio gyda’i gilydd.
“O’dd e’n gallu bod yn llym ei dafod, ond o’dd hynny achos bod ei safone fe mor uchel, ac os nad oedd rhywun yn cyrraedd y safon hwnnw, fe fydden nhw, falle, yn cael gwybod.”
Fe alwodd Huw Edwards hi’n "fentor" iddo ar sawl achlysur, ac fe ddaethon nhw’n agos iawn, gyda Huw Edwards yn westai droeon ar ei rhaglen ‘Beti a’i Phobol’ ar BBC Radio Cymru.
“Mi oedd ’na ddau Huw yn doedd; yr Huw o’n i’n adnabod ac yn ffrindiau mawr, a’r Huw arall ’ma dw i ddim yn ei ddeall,” meddai’r ddarlledwraig.
“Does na ddim cyfiawnhad dros yr hyn wnaeth e mewn gwirionedd.”
Yn Llys Ynadon Westminster fis Medi 2024, fe glywodd y llys am ddiffyg hunan-hyder Huw Edwards a’i berthynas gyda’i dad, yr academydd adnabyddus, Hywel Teifi Edwards.
Roedd Huw Edwards wedi disgrifio ei dad fel dyn oedd yn wahanol iawn tu ôl i ddrysau caeedig a bod hynny wedi effeithio ar ei ddiffyg hunan-hyder.
Mae Beti George, oedd yn adnabod Hywel Teifi Edwards wedi cwestiynu hyn.
“On i’n gwybod nad oedd y perthynas rhyngdden nhw ddim yn un hapus iawn a oedd e bob amser yn cwyno am hynny.
“Ond, ie.. beio rhiant am ffordd mae rhywun yn ymddwyn wedyn fel oedolyn? Dw i ddim yn siwr.”
Ni wnaeth Huw Edwards ymateb i gais Y Byd ar Bedwar am sylw.
Mewn datganiad, fe ddywedodd y BBC fod troseddau Huw Edwards wedi codi braw arnyn nhw, a’i fod e wedi bradychu nid yn unig y BBC, ond y cynulleidfaoedd a roddodd eu hymddiriedaeth ynddo.
Bydd y cyfweliad llawn, ynghyd â chyfweliadau gan gyn-gydweithwyr eraill i Huw Edwards yn ymddangos ar raglen Y Byd ar Bedwar ‘Huw Edwards: y darlledwr, y troseddwr’, nos Lun am 8yh ar S4C.