Newyddion S4C

Syr Ed Davey yn galw ar Jane Dodds i 'ystyried' ei dyfodol wedi 'camgymeriad difrifol'

17/11/2024
Jane Dodds - Ed Davey

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Syr Ed Davey wedi awgrymu y dylai’r arweinydd y blaid yng Nghymru, Jane Dodds, ystyried ymddiswyddo ar ôl gwneud “camgymeriad difrifol” wrth ymdrin ag achos o gamdriniaeth rhyw tra’n gweithio i Eglwys Loegr.

Daeth adroddiad yn 2021 i’r casgliad fod Jane Dodds wedi gwneud camgymeriad drwy beidio â threfnu cyfarfod i drafod achos penodol o gamdriniaeth rhyw gan esgob.

Cafodd yr adroddiad, Betrayal of Trust, ei gyhoeddi yn dilyn ymchwiliad mewn i gamdriniaeth rhyw hanesyddol honedig gan gyn Esgob Caer, Hubert Victor Whitsey.

Canfu’r adroddiad fod Ms Dodds, wrth weithio fel uwch weithiwr achos i dîm diogelu cenedlaethol Eglwys Loegr, wedi methu â threfnu cyfarfod ynglŷn ag achos o ddyn ifanc yn dioddef camdriniaeth honedig gan Mr Whitsey.

Dywedodd Mr Davey, arweinydd y blaid yn San Steffan, ar raglen Sunday With Laura Kuenssberg, ei fod yn croesawu ymddiswyddiad Archesgob Caergaint, Justin Welby, yr wythnos hon, yn dilyn methiannau i adrodd camdriniaeth rhyw i’r heddlu.

Fe ychwanegodd: “Dw i’n credu bod y sefyllfa o gwmpas Eglwys Loegr yn un hynod o ddifrifol ac mae’n rhaid i ni gymryd y peth o ddifri.

“Rydw i’n croesawu ymddiswyddiad Archesgob Caergaint. Dw i wedi siarad gyda Jane am hyn. 

"Mae hi wedi ymddiheuro, ac mae hi wedi cael gyrfa anhygoel o weithio gyda phlant, ond 'dw i wedi ei wneud yn eglur fy mod i’n meddwl y dylai hi ystyried ei chyfrifoldeb ynglŷn â hyn."

Pan ofynnwyd a oedd yn credu y dylai Ms Dodds ymddiswyddo, atebodd Mr Davey: “Dw i’n meddwl bod yn rhaid iddi hi adlewyrchu ar hyn yn ofalus iawn. 

"Dw i’n derbyn ei bod wedi ymddiheuro, ond mae hwn yn fater difrifol felly dw i’n meddwl bod angen iddi hi ystyried beth arall sydd angen iddi hi ei wneud.”

Dywedodd ei fod wedi trafod y mater gyda Ms Dodds.

“Rydw i wedi mynegi fy nheimladau iddi hi yn eglur iawn am beth dw i’n credu y dylai hi wneud a dw i’n meddwl ei bod hi’n ystyried y peth, a dw i’n gobeithio ei bod hi,” ychwanegodd.

Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.