Newyddion S4C

Archesgob Caergaint yn ymddiswyddo

Archesgob Caergaint yn ymddiswyddo

Mae Archesgob Caergaint Justin Welby wedi ymddiswyddo ar Ă´l adolygiad damniol i ymddygiad y bargyfreithiwr John Smyth, oedd wedi ei gyhuddo o gam-drin cannoedd o fechgyn ifanc dros gyfnod o ddegawdau.

Fe gafodd adolygiad annibynnol Makin ei gyhoeddi ar 7 Tachwedd, gan ddatgelu bod Smyth, bargyfreithiwr oedd yn gysylltiedig ag Eglwys Loegr, wedi cam-drin hyd at 130 o fechgyn mewn tair gwlad.

Yn Ă´l yr adroddiad, roedd Smyth wedi cynnal ymosodiadau rhywiol, corfforol, seicolegol ac ysbrydol "trawmatig" mewn gwersylloedd haf Cristnogol yn yr 1980au a'r 1990au, tra'n gweithio i'r elusen Gristnogol Iwerne Trust.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad y gallai Smyth fod wedi wynebu cyfiawnder pe bai Justin Welby wedi rhoi gwybod i'r heddlu yn swyddogol yn 2013.

Ddydd Mawrth, dywedodd Justin Welby mewn datganiad ei fod yn ymddiswyddo, lai nag wythnos ers iddo ddweud na fyddai'n rhoi'r gorau i'w swydd.

Dywedodd fod yr adroddiad yn "datgelu'r cynllwyn hir-sefydlog o dawelwch ynghylch camdriniaeth erchyll John Smyth."

"Wedi i mi ofyn caniatâd grasol Ei Fawrhydi Y Brenin, rwyf wedi penderfynu ymddiswyddo fel Archesgob Caergaint," meddai.

"Mae’n amlwg iawn bod yn rhaid imi gymryd cyfrifoldeb personol a sefydliadol am y cyfnod hir a thrawmatig rhwng 2013 a 2024.

"Rwy’n gobeithio bod y penderfyniad hwn yn dangos bod Eglwys Loegr wir yn deall yr angen am newid a’n hymrwymiad dwys i greu eglwys fwy diogel.

Ychwanegodd: "Wrth i mi roi'r gorau i'r swydd, rwy'n gwneud hynny mewn tristwch gyda holl ddioddefwyr a goroeswyr cam-driniaeth.

"Mae'r ychydig ddyddiau diwethaf wedi adnewyddu fy nheimlad hir a dwys o gywilydd ynghylch methiannau diogelu hanesyddol Eglwys Loegr. 

"Ers bron i ddeuddeg mlynedd rwyf wedi methu â chyflwyno gwelliannau. Mater i eraill yw barnu beth sydd wedi'i wneud."

'Erchyll'

Yn Ă´l yr adroddiad,  byddai Smyth yn mynd â disgyblion i'w gartref ger Caerwynt ac yn eu taro gyda chansen yn ei sied yn yr ardd.

Yn Ă´l honiadau, fe darodd e fechgyn filoedd o weithiau. 

Galwodd yr elusen yr arfer yn “erchyll” ond ni chafodd yr honiadau eu hadrodd i’r heddlu tan 2013 – fwy na 30 mlynedd yn ddiweddarach.

Bu farw John Smyth yn Ne Affrica yn 2018 heb wynebu achos llys.

Llun: Doug Peters/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.