A yw'r amser ar ben i Warren Gatland fel hyfforddwr Cymru?
Wedi i Gymru golli 11 gêm ryngwladol am y tro cyntaf yn eu hanes, y cwestiwn ar wefusau sawl un nawr yw - a yw amser Warren Gatland fel hyfforddwr ar ben?
Wrth ymateb i gwestiynau ar ôl y golled 20-52 yn erbyn Awstralia ddydd Sul, dywedodd Gatland y byddai’n “gyfforddus” tasai’r Undeb yn penderfynu ei ddiswyddo.
"Ro’n i’n siomedig heddiw, mae’r perfformiad yna yn brifo," meddai wrth ohebydd S4C, Lauren Jenkins.
"Hyd yn oed ar ôl siom y golled wythnos diwethaf yn erbyn tîm Ffiji, sydd wedi gwella o lawer, roeddem yn mynd mewn heddiw gyda hyder a hunan gred ein bod wedi cymryd cam ymlaen.
“Nid yw hyn erioed wedi bod amdanaf i. Mae wastad wedi ymwneud â pha mor angerddol yw pobl Cymru, y cefnogwyr, a gwneud y penderfyniadau gorau i rygbi Cymru.
“Mae yna lawer o bethau negyddol yng Nghymru ar hyn o bryd, nid yn unig ynglŷn â sut rydyn ni'n chwarae ond pethau oddi ar y cae.
Inline Tweet: https://twitter.com/S4CRygbi/status/1858220006166708692
"Mae angen i ni ddod at ein gilydd, ac os yw hynny'n golygu nad ydw i'n cymryd rhan, os mai dyna'r penderfyniad gorau i rygbi Cymru, yna bydded felly. Rwy'n gyfforddus â hynny.
"Rwyf wedi dweud o'r dechrau, nid ydw i'n ceisio amddiffyn fy hunan, mae'n ymwneud â gwneud fel grŵp, y penderfyniad gorau.”
Wrth ddadansoddi’r canlyniad ar ôl y gêm, roedd sylwebydd S4C, cyn gapten Cymru Gwyn Jones yn bendant na ddylai Gatland barhau wrth y llyw.
“Dyna’r hoelen yn ei arch, dwi’n credu. Dwi’m yn gweld sut mae Cymru’n dod yn ôl, o’r rhan hygrededd o’r rhan hyder.
“Os ni’n edrych yn wrthrychol ar y gwirionedd, mae record Gatland ei hunan fel rheolwr ers 2019, ar ôl Cwpan y Byd hynny, mae’n ofnadwy.
"Fe gollodd e saith neu wyth ar y bron gyda Chiefs, wedyn aeth e i’r Llewod, collodd e gyfres yn erbyn De Affrica. Yn y ddwy flynedd diwethaf, mae wedi ennill un gêm oddi cartref, yn erbyn yr Eidal, mewn 10.
“Dyna wirionedd y sefyllfa. Dyw e ddim digon da. Mae’r gêm yn newid. Mae’n esblygu, mae’n rhaid datblygu a bod yn arloesol.
"Ond mae’n rhaid gweud bod Cymru yn chwarae’r un ffordd nawr ag o’n nhw pan ddaeth e yn 2008.
“Di nhw ddim wedi newid dim, dim wedi trio dim, ni’n rhy negyddol a dyw’r chwaraewyr mawr cryf ddim gyda ni rhagor. Mae'n rhaid i ni fod yn fwy dyfeisgar, mwy dychmygus, a dyw e ddim o fewn y gŵr.
“Mae’n gallu chwarae gyda thîm mawr cryf, ond dyw Gatland ddim yn gallu hyfforddi mewn unrhyw ffordd arall."
Fe awgrymodd y gallai Rob Howley gymryd rheolaeth o'r tîm dros dro, gyda chyn hyfforddwr Awstralia Michael Cheika yn opsiwn hir dymor, pe tasai Gatland yn ymadael.
"Ydi'r undeb yn gallu fforddio peidio [ei ddiswyddo]?" ychwanegodd Gwyn Jones.
Dywedodd Sioned Harries, cyn gapten tîm merched Cymru: "Dwi'n cytuno 'da Gwyn. I fi, mae angen newid."
Anghytuno gwnaeth Jonathan Davies a Gareth Davies, dau chwaraewr a enillodd lawer o gapiau dan arweiniad hynod lwyddiannus Gatland.
"Mae'n rhaid i ni ddod gyda'n gilydd i adeiladu, gyda'r rhanbarthau," meddai Jonathan Davies.
"I fi, falle newid faint o ranbarthau ni'n cael. Mae'n rhaid i ni edrych ar y pictiwr i gyd."
Ychwanegodd cyn fewnwr Cymru, Gareth Davies: "Mae fe di bod mor llwyddiannus i ni dros y blynyddoedd, mae e wedi bod yn grêt i fi dros fy ngyrfa i.
"Sa i'n credu bod squad digon cryf 'da ni ar y foment i gystadlu. So hynny'n helpu fe ond gobeithio taw fe fydd y dyn."
Prif lun: Warren Gatland (Asiantaeth Huw Evans)