Newyddion S4C

Y cyn weinidog Llafur Glenys Kinnock wedi marw yn 79 oed

03/12/2023

Y cyn weinidog Llafur Glenys Kinnock wedi marw yn 79 oed

Mae’r cyn weinidog Llafur, Glenys Kinnock, gwraig cyn-arweinydd y blaid Lafur yr Arglwydd Kinnock, wedi marw yn 79 oed.

Fe gyhoeddodd ei theulu'r newyddion brynhawn dydd Sul.

Dywedodd ei theulu ei bod hi wedi marw’n dawel yn ei chwsg. Roedd wedi bod yn byw gyda'r cyflwr Alzheimer's ers 2017.

Roedd y Farwnes Kinnock o Gaergybi hefyd wedi gwasanaethu fel gweinidog yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Mae teyrngedau lu wedi eu rhoi gan sawl ffigwr o'r byd gwleidyddol, gan gynnwys arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer.

'Tristwch mwyaf'

Mewn datganiad, dywedodd ei theulu: “Gyda’r tristwch mwyaf rydym yn cyhoeddi marwolaeth Glenys Kinnock.

"Fe fu farw Glenys yn ei chwsg yn oriau mân fore dydd Sul yn ei chartref yn Llundain.

"Roedd hi’n wraig gariadus a phartner bywyd i Neil, yn fam annwyl i Steve a Rachel ac yn fam-gu addfwyn.

"Roedd Neil gyda hi yn ei munudau olaf. Roeddynt wedi bod yn briod am 56 mlynedd."

Mewn neges ar gyfrwng cymdeithasol X, dywedodd ei mab, yr Aelod Seneddol Llafur Stephen Kinnock: "Mae fy nghalon wedi torri ar ôl i Mam ein gadael yn heddychlon yn ei chwsg neithiwr, ar ôl blynyddoedd lawer o Alzheimer's. 

"Roedd hi yn fam a nain annwyl ac roedd ei theulu a'i ffrindiau yn ei charu yn fawr iawn. Roedd hi'n berson cryf ym mhob ffordd a gyda synnwyr digrifwch llawn direidi. Cwsg mewn heddwch. "

Bywyd

Wedi ei geni yn Glenys Elizabeth Parry yn Sir Northampton, fe symudodd i Ynys Môn a gafodd ei haddysgu yn Ysgol Uwchradd Caergybi. Fe dderbyniodd gradd yn 1965 o Goleg y Brifysgol, Caerdydd.

Fe briododd Neil Kinnock yn 1967, ac fe weithiodd fel athrawes mewn sawl ysgol gynradd, uwchradd a meithrin yn ystod y cyfnod.

Roedd yn aelod o'r Blaid Lafur ac fe gafodd ei hethol fel Aelod Seneddol Ewrop (MEP) dros Gymru yn 1994, gan aros yn y swydd tan 2009.

Cafodd ei phenodi'n Gweinidog Gwladol dros Ewrop o Fehefin i Hydref 2009, a Gweinidog Gwladol dros Affrica a'r Cenhedloedd Unedig rhwng 2009 a 2010.

Cafodd ddiagnosis Alzheimer's yn 2017, ac roedd ei mab Stephen Kinnock wedi trafod ei chyflwr yn gyhoeddus.

'Ymgyrchydd angerddol'

Dywedodd Keir Starmer fod y Farwnes Kinnock yn “ymgyrchydd angerddol dros gyfiawnder cymdeithasol thrwy gydol ei hoes," oedd â “gyrfa wleidyddol drawiadol” yn ei rhinwedd ei hun.

“Cafodd Neil a Glenys y bartneriaeth fwyaf bendigedig, yno i’w gilydd trwy bob cyfnod, gyda chariad ac ymrwymiad oedd yn amlwg yn syth pan welsoch chi nhw gyda’i gilydd.

“Fel mae’r teulu wedi nodi, yn ystod y blynyddoedd diwethaf roedd hynny’n golygu gofalu am Glenys wrth geisio ymdopi â'r clefyd Alzheimer's.

“Ond yr hyn y byddwn ni i gyd yn ei gofio yw Glenys fel gwir lysgennad dros y Blaid Lafur a gwerthoedd y mudiad llafur, menyw arloesol. Mae arnom ni ddyled enfawr iddi."

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: "Fe dreuliodd Glenys Kinnock ei bywyd yn gwasanaethu ein gwlad ac ein Plaid. Roedd hi'n rhan o bartneriaeth aruthrol gyda'i gŵr Neil, ond roedd hi'n rymus ei hun yn ogystal.

"Cafodd ei ymrwymiad gydol oes i'r Blaid Lafur ei ddylanwadu gan ei phlentyndod mewn cymuned Gymreig ar Ynys Môn. Rydw i'n cydymdeimlo â Stephen, Rachel, Neil a'r teulu Kinnock gyfan heddiw."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.