Newyddion S4C

Rhybudd melyn am eira a rhew i rannau o Gymru

02/12/2023
Eira

Mae rhybudd melyn am eira a rhew i rannau o Gymru ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 18:00 ddydd Sadwrn ac yn parhau tan 12:00 ddydd Sul. 

Mae disgwyl y bydd y ffyrdd a rheilffyrdd yn cael eu heffeithio a phosibilrwydd y gallai pobl gael eu hanafu yn sgil y rhew. 

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd y bydd glaw, eirlaw ac eira ledu ar draws y gogledd a’r dwyrain yn hwyrach nos Sadwrn ac i mewn i oriau mân fore dydd Sul.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fe fydd rhai ardaloedd yn cael tua 103 centimedr o eira gyda rhwng 5-10 centimedr yn bosib ar y mynyddoedd.

Dyma'r siroedd sydd wedi eu cynnwys yn y rhybudd melyn am eira a rhew:

  • Conwy
  • Dinbych
  • Y Fflint
  • Gwynedd
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Wrecsam

Dywedodd heddlu Gogledd Cymru brynhawn dydd Sadwrn fod ffordd yr A470 rhwng Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog tuag at Fwlch Crimea wedi cau oherwydd y tywydd garw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.