Newyddion S4C

Gavin Henson ymhlith 200 o gyn-chwaraewyr rygbi sydd yn dwyn achos yn erbyn awdurdodau'r gamp

01/12/2023
Ryan Jones Gavin Henson Alix Popham

Mae Gavin Henson wedi ei enwi ar restr o dros 200 o gyn-chwaraewyr rygbi sydd yn dwyn achos cyfreithiol yn erbyn cyrff sydd yn rhedeg y gamp dros anafiadau niwrolegol.

Mae cyn gapteniaid Cymru Ryan Jones, Colin Charvis a Non Evans, yn ogystal ag Alix Popham a sylwebydd S4C, Andrew Coombs hefyd ymhlith cyn chwaraewyr Cymru sydd yn rhan o’r grŵp.

Dywedodd yr Uchel Lys ddydd Gwener fod cais i’r achosion yn cael eu cyflwyno gyda'i gilydd yn y flwyddyn newydd.

Fe allai’r cais, a gafodd ei wneud gan gyfreithwyr y cyn chwaraewyr, gael ei gyflwyno fis Ebrill nei Mai.

Byddai hynny yn galluogi’r holl achosion yn erbyn corff World Rugby, Undeb Rygbi Cymru ac Undeb Rygbi Lloegr, gael eu rheoli gyda'i gilydd.

Mae’r hawlyddion yn honni i dri chorff llywodraethu fethu a rhoi mesurau rhesymol mewn lle er mwyn gwarchod lles ac iechyd chwaraewyr.

Mae’r grŵp yn honni i’r methiant honedig achosi gyflyrau gwahanol, megis cyflwr motor niwron (MND), dementia dechreuad cynnar, epilepsi a chlefyd Parkinson’s.

Mae Ryan Jones ac Alix Popham eisoes wedi datgelu eu bod wedi cael diagnosis o arwyddion cynnar o ddementia, yn ogystal â chyn capten Lloegr, Steve Thompson, sydd hefyd ar y rhestr.

Mewn datganiad ar y cyd gan World Rugby, Undeb Rygbi Cymru ac Undeb Rygbi Lloegr, dywedodd llefarydd:

“Fe fydden ni eisiau i’r chwaraewyr sy’n cymryd rhan wybod ein bod ni’n gwrando ac yn parhau i hyrwyddo lles chwaraewyr fel prif flaenoriaeth y gamp.

"Gall chwaraewyr a rhieni fod yn hyderus bod rygbi mor ddiogel ag y gall chwaraeon cyswllt fod. Bydd rygbi bob amser yn cael ei arwain gan y wyddoniaeth ddiweddaraf wrth gymryd unrhyw gamau ar les chwaraewyr."

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.