
Pencampwriaeth pêl-droed cerdded rhyngwladol yn Trefforest

Pencampwriaeth pêl-droed cerdded rhyngwladol yn Trefforest
Bydd 27 o dimau o bob rhan o'r byd yn tyrru i Drefforest ger Pontypridd y penwythnos hwn i gystadlu mewn pencampwriaeth pêl-droed cerdded rhyngwladol.
Dyma'r tro cyntaf i gystadleuaeth o'r fath gael ei chynnal yng Nghymru ac mae'n arwydd o dwf y gamp yma.
Yn ôl Nye Isaac, fydd yn cynrychioli tîm dros 70 oed Cymru mae'n mwynhau'r profiad yn fawr ac yn edrych ymlaen at gael chwarae yn erbyn Lloegr, Sweden ac Awstralia.
Mae pêl-droed cerdded yn gamp gymharol newydd yng Nghymru, ond mae wedi cydio mewn cymunedau. Wedi ei haneli at chwaraewyr hŷn mae'n fersiwn llai corfforol na phêl-droed arferol ond ddim o reidrwydd yn llai cystadleuol. Does yna ddim rhedeg, penio na thaclo o'r tu ôl.
Yn cystadlu ym mhencampwriaeth cenhedloedd y gaeaf yn Nhrefforest, bydd 27 o dimau o wyth o wledydd gan gynnwys Sweden, Lithuania a'r Caribî.
Wedi ei chynnwys yng ngharfan Awstralia mae cyn capten y tîm menywod cenedlaethol Sonia Gegenhuber, enillodd 75 o gapiau dros ei gwlad.
Mae'r gystadleuaeth hon meddai hi yn gyfle i fenywod barhau i chwarae yn eu pedwardegau, pumdegau a chwedegau.
Dechreuodd Nye Isaac chwarae rhai blynyddoedd yn ôl, er lles ei iechyd. Yn gynharach eleni fe gynrychiolodd ei wlad ym mhencampwriaethau Ewrop ym Marseille .

"Smo fi 'di ware pêl-droed cyn hynny ers 30/40 o flynyddoedd. Pan ddechreuodd e off roedd pawb yn mwynhau. Roedd rhai pobl yno â'r un broblem a fi â'r galon, ond roedd rhai yn dioddef o iselder hefyd a nhw'n dweud bod yn good yn gymdeithasol a ffitrwydd - ie fi'n mwynhau e llawer."
Ar ôl teithio dramor gyda thîm menywod dros 50 oed mae Sharon Jones yn falch iawn o allu croesawu timau yma i Gymru y tro hwn.
"Mae'r ffaith bod y gwledydd eraill yn dod trosodd aton ni mae'n arbennig ofnadwy i ni a da ni'n proud ofnadwy bo ni'n gallu cynnal y gystadleuaeth yng Nghymru."
Gyda dros fil o bobl yn chwarae yn gyson yma bellach mae yna gynghreiriau wedi eu sefydlu yn y gogledd a'r de a thros ddeugain o dimau'n cystadlu yn gyson.
Y nod - yn ogystal â chael llwyddiant ar y lefel rhyngwladol y penwythnos hwn - yw gweld y gamp yn parhau i dyfu ar lawr gwlad.