Newyddion S4C

Dyn gydag 'anafiadau difrifol' ar ôl ymosodiad honedig yng Nghaergybi

01/12/2023
Heddlu

Mae dyn yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn ymosodiad honedig yng Nghaergybi nos Iau.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r ardal Ffordd Longford yn dilyn adroddiad o ymosodiad honedig a ddigwyddodd rhwng 21.30 a 22.15.

Cafodd dyn ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn y digwyddiad.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar unrhyw un a oedd yng nghanol tref Caergybi neithiwr ac a allai fod wedi gweld unrhyw beth amheus, neu a allai fod â lluniau teledu cylch cyfyng neu dashcam preifat, i gysylltu gyda nhw, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 23001211322.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.