Newyddion S4C

Camdriniaeth yn erbyn menywod yn digwydd ‘yn rhy aml’, medd grŵp ymgyrchu

ITV Cymru 02/12/2023
itv.png

Yn ôl grŵp ymgyrchu, mae camdriniaeth yn erbyn menywod yn broblem gymdeithasol sy’n digwydd ‘yn rhy aml’.

Yn ddiweddar, wnaeth y grŵp Llais yn Erbyn Trais gynnal digwyddiad i godi ymwybyddiaeth am gamdrin domestig.

Image
ITV
Llun: ITV Cymru Wales

Yn ôl y grŵp, gall £15 brynu teganau a gemau newydd, i lawer o blant sydd yn dianc o gamdriniwr, maen nhw yn gadael eu teganau ar ôl.

Gall £25 dalu am hanfodion pan fod teulu yn cyrraedd un o’r llochesau fel cewynnau, deunyddiau ymolchi a bwyd, a bydd £52 yn galluogi un noson ddiogel i fenyw a’i phlentyn sydd yn dianc o’i chamdriniwr. 

Mae Llais yn Erbyn Trais yn grŵp yng Nghaerdydd sydd yn cael ei redeg gan bedair merch sydd yn ceisio ymladd yn erbyn y trais a’r casineb maen nhw’n meddwl sy’n rhy gyffredin, o brofiad, ac yn cael ei dderbyn yn rhy aml.

Dywedodd y grŵp: “cynhaliwyd y digwyddiad i helpu cael gwared ar y stigma a’r cywilydd o fod yn ddioddefwr, ac i helpu mwy o fenywod adrodd i’r r heddlu.”

Yn ogystal â hyn, mae’r grŵp yn hapus i godi arian i helpu elusennau a codi ymwybyddiaeth o’r broblem yng Nghymru. 

Un o’r elusennau hynny yw Refuge, sef y sefydliad mwyaf yn y DU ar gyfer camdrin domestig. 

Dywedodd Louise Firth, Cyfarwyddwr Codi Arian a Chyfathrebu yn Refuge: “Mae’r gwaith mae Llais yn Erbyn Trais yn gwneud yn anhygoel ac rydw i’n cymeradwyo’r menywod ifanc wnaeth ddechrau’r grŵp di-elw am ddod at ei gilydd a sefyll lan yn erbyn camdrin domestig. 

“Maen nhw'n wir rym ffeministaidd er mwyn daioni!

“Mi fydd y rhodd yma’n helpu Refuge i gadw gwneud y gwaith sy'n achub bywydau ac sy'n newid bywydau trwy rhoi cymorth i oroeswyr camdrin domestig.” 

Yn ôl Refuge, mae’r heddlu yn derbyn galwad yn ymwneud â chamdrin domestig pob 30 eiliad. Er hyn, mae’n amcangyfrif bod llai na 24% o droseddau camdrin domestig yn cael eu hadrodd i’r heddlu.  

Mae’r Arolwg Trosedd am Loegr a Chymru (CSEW) wedi amcangyfrif bod tua 2.4 milliwn o oedolion dros 16 oed wedi profi camdrin yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2022, gyda’r mwyafrif ohonyn nhw’n fenywod. 

Dywedodd Manon, un o’r merched o Llais yn Erbyn Trais: “Ro’n ni wedi dechrau’r grŵp er mwyn bod yn neges bositif i’r gymdeithas o fenywod yng Nghaerdydd yn bennaf. 

“Ry’n ni’n bedair merch sy’n ffeminyddion, ac ro’n ni eisiau gwneud rhywbeth yng Nghaerdydd oedd yn ymladd yn erbyn camdrin sydd yn cael ei dderbyn yn rhy aml, dwi’n meddwl.” 

Fis Rhagfyr 2022, yn ôl Cardiff Women’s Aid, fe wnaeth 727 o fenywod gysylltu â nhw ar ôl profi camdrin domestig, camdrin rhywiol a thrais/trais rhywiol.  

Yn ôl Heddlu De Cymru, yn y flwyddyn 2022, roedd cyfanswm o 16,850 achos camdrin domestig wedi cael eu cofnodi. 

Wrth sôn am y sefyllfa yng Nghaerdydd, dywedodd Manon: “Wrth siarad gyda ffrindiau, ry’n ni gyd yn meddwl bod yna gyffredinedd yn y ffordd ein bod ni gyd wedi cael rhyw fath o brofiad o naill ai gamdrin neu sefyllfa ry’n ni’n teimlo’n annifyr gyda dyn neu berson."

Yn strategaeth trais yn erbyn menywod, camdrin domestig a thrais rhywiol 2022 i 2026 Llywodraeth Cymru, mae Jane Hutt, AS, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn nodi: “Rwyf am wneud Cymru yn wlad sy’n saffach nag unrhyw le arall i fod yn fenyw.”

Prif nod Deddf Trais yn erbyn Menywod, Camdrin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yw gwella ymateb y sector cyhoeddus yng Nghymru i drais ar sail rhywedd, camdrin domestig a thrais rhywiol. 

Am fwy o gymorth ar y mater hwb ewch i: https://www.s4c.cymru/cy/cymorth  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.