Newyddion S4C

'Angen ymrwymiad ariannol hir dymor' i fynd i’r afael â’r prinder tai cenedlaethol

Newyddion S4C 01/12/2023

'Angen ymrwymiad ariannol hir dymor' i fynd i’r afael â’r prinder tai cenedlaethol

Mae angen i Lywodraeth Cymru roi ymrwymiad ariannol hir dymor i gymdeithasau tai Cymru os am wir fynd i’r afael â’r prinder cenedlaethol.

Yn ôl Prif Weithredwr cymdeithas dai Adra yn y gogledd, dim ond blwyddyn o sicrwydd ariannol sydd i’w grant tai cymdeithasol.

Mae’r "diffyg ymrwymiad" yn golygu nad oes modd buddsoddi mewn cynlluniau mawr hir dymor a hynny’n dwysau’r prinder, yn ôl Iwan Trefor.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod awdurdodau lleol "wedi derbyn £12.5m i atal digartrefedd eleni” a bod yr amgylchiadau yn rhai heriol.

Mae Adra wrthi’n gorffen stad newydd o 17 o dai eco gyfeillgar at ddibenion rhent cymdeithasol yng nghanol Caernarfon.

Mae’r cynllun yn gobeithio cadw biliau tenantiaid yn isel gyda phaneli solar a phwmpiau gwres wedi eu gosod ym mhob cartref. 

Ond un cynllun yw hwn ac mae'’r galw yn genedlaethol yn enfawr. 

Cyfuniad o ffactorau, gan gynnwys y broses gynllunio, sy’n dal cymdeithasau tai yn ôl, medd y Prif Weithredwr, ond mae hefyd am weld sicrwydd ariannol. 

“Be ‘da ni angen ydi’r ymrwymiad tymor hir," medd Iwan Trefor. 

“Yn enwedig o ran cyllid...fydde’n galluogi i ni gynllunio ac i roi cynlluniau ar waith”

“Ar hyn o bryd mae’r ymrwymiad ar gyfer y flwyddyn nesaf yn unig ar gyfer y grant tai cymdeithasol a phe bai'r ymrwymiad am bum mlynedd neu 10 mlynedd, mi fydde’n rhoi sicrwydd a hyder i ni gynllunio nifer mwy o gynlluniau ar draws gogledd Cymru fel hyn”. 

Image
newyddion
Iwan Trefor, Prif Weithredwr Cymdeithas Dai Adra

Mae’r prinder tai rhent i’w deimlo ar draws Cymru ac mae Dafydd Roberts, sy’n 21, a’i bartner Nick Martin, yn teimlo hynny wrth geisio canfod cartref newydd. 

“Does dim digon o dai i fyw ynddyn nhw a rhentio preifat wedi mynd yn ddrud hefyd," meddai.

“Ti’n sôn am £800/£900 o leiaf ar rhent y mis ac ma hynny jest rhent.

“O ran tai cymdeithasol, mae’r list mor fawr a da chi’n aros am flynyddoedd.” 

Yn ôl Dafydd, mae’r broses a’r siom o beidio â sicrhau tŷ hefyd yn cael effaith emosiynol. 

Mae ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn rhoi darlun clir o maint y broblem hefyd, a’r nifer o bobl sy’n byw mewn llety dros dro gan eu bod wedi eu cofrestru’n ddigartref ar eu huchaf erioed. 

Ym mis Medi 2020, roedd 4,048 o bobl drwy Gymru yn byw mewn llety dros dro, sy’n gyfuniad o bobl yn aros mewn Airbnb, gwestai, hostel neu stoc breifat. 

Ym mis Medi 2023, mae’r ffigwr yna wedi cynyddu i 11,228 a 3,409 o rheini yn blant. 

Yng Ngwynedd, mae'r cyngor wedi derbyn 123 o ffurflenni cais am dai ym mis Hydref 2023 yn unig. 

Roedd 1,000 yn fwy o e-byst i'r cyngor hefyd yn gwneud ymholiadau - cyfanswm o 3,000 i gyd. 

'Argyfwng'

Dywedodd llefarydd fod y sefyllfa "costau byw, cynydd cyfraddau llog a phrinder stoc" yn dwysau'r "argyfwng". 

Mewn datganiad, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod mwy na 42,500 o bobl wedi derbyn cefnogaeth ers Mawrth 2020 drwy lety dros dro. 

“Mae’n bwysig cofio niferoedd heddiw mewn cyd-destun yr her enfawr yr ydym yn ei wynebu. 

“Ein ffocws o hyd yw atal hyn a cheisio sicrhau nad yw pobl yn gorfod troi at lety dros dro."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.