
O drechu canser i bencampwriaeth y byd: Pêl-droediwr o Wynedd yn y gystadleuaeth ffitrwydd ‘anoddaf’
O drechu canser i bencampwriaeth y byd: Pêl-droediwr o Wynedd yn y gystadleuaeth ffitrwydd ‘anoddaf’
“Oni just yn meddwl i amseroedd lle oni’n gorwedd ar y gwely na yn yr ysbyty mewn poen, ac yn teimlo’n mor diolchgar i gallu just symud y corff a competio ar y lefel yna.”
Bydd pêl-droediwr o Wynedd yn cynrychioli Cymru ym mhencampwriaeth y byd mewn cystadleuaeth ffitrwydd y flwyddyn nesaf, a hynny bum mlynedd ar ôl cael diagnosis canser.
Ym mis Awst 2019, fe gafodd Danny Gosset diagnosis o non-Hodgkin Lymphoma, math o ganser y gwaed, ac yntau yn 24 oed ac yn chwarae pêl-droed yn lled broffesiynol i'r Bala.

Daeth y diagnosis ar ôl i Danny deimlo poen yn ei glun, ond nid oedd yn deall difrifoldeb y boen tan ar ôl i’r doctoriaid egluro canlyniadau’r sganiau.
'Fel nightmare'
Wrth iddo dderbyn triniaeth cemotherapi dwys yn ysbyty Christie’s ym Manceinion bob pythefnos, fe dreuliodd flwyddyn heb gerdded o gwbl gan nad oedd yn gallu rhoi pwysau ar ei goesau oedd wedi eu gwahnhau gan y driniaeth.
“Oni’n mynd i fewn, cael y treatment trwy’r dydd yn hooked up i’r machines oedd yn pwmpio’r drugs mewn i system fi, a wedyn o’n i’n rili sal ar ôl o.
“Weithiau oni’n cefn car my mrawd wedi cyrlio fewn i pêl, a gorfod mynd syth i gwely a fyswn i’n sâl am wythnos a hannar, a dechrau teimlo bach yn well cyn gorfod mynd yn ôl i mewn eto.
“Os rwbath, dwi’n teimlo fel bod o erioed di digwydd a fatha bod o fel nightmare dwi di deffro o.”
O nerth i nerth
Bellach, mae’r hunllef yn bell y tu ôl iddo.
Wedi iddo dderbyn y neges ei fod yn glir o ganser yn 2020, mae Danny wedi mynd o nerth i nerth.
Nawr yn 29 oed, mae'n ŵr ac yn dad i i ferch sydd 18 mis oed o’r enw Maisie.
Inline Tweet: https://twitter.com/DanielGosset/status/1427970091170344964?s=20
Mae hefyd yn chwarae yng nghanol cae i Glwb Pêl-droed Caernarfon, tra’n gweithio fel hyfforddwr ffitrwydd personol.
Ond tra bod y Cofis heb gêm y penwythnos diwethaf, penderfynodd Danny i gymryd rhan yng ngystadleuaeth ffitrwydd Hyrox yn Llundain.
“O’n i just meddwl challengo fy hun a pusho fy hun i’r lefel nesa,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Mae’n rwbath dwi di bod isho neud erioed. Dwi’n chwarae lot o bêl-droed, dwi’n trainio fy hun, so mae’n rhywbeth yn y fitness industry oeddwn i eisiau neud, a hwnna odd yr un gynta i fi wneud.
“Mae bob elfen o ffitrwydd chdi yn cael ei testio. Mae ‘na strength, fitness, conditioning - un o’r rasus ffitrwydd anodda, maen nhw’n ddeud.”
'Diolchgar'
Yr her oedd yn ei wynebu yn yr Excel yn Llundain oedd cwblhau wyth o gampau ffitrwydd, gan gynnwys burpees a thynnu sled â phwysau, mor gyflym â phosib, gan hefyd rhedeg cilomedr rhwng bob her.
Ac er mai dim ond tair wythnos gafodd i baratoi am y digywddiad, fe lwyddodd i orffen ymhlith y goreuon o’r 20,000 o bobl oedd yn cymryd rhan dros y penwythnos.
Daeth yn 11eg o blith yr rheini yng ngrŵp oedran 25-29 – gan ennill ei le ym Mhencampwriaeth y Byd yn Nice, Ffrainc, y flwyddyn nesaf.
“Mewn unrhyw event ti heb wneud o’r blaen, ti’m yn gwybod be ti’n mynd yn erbyn. Oni’n confident swni’n gael drwyddo fo, ond doni’m yn siwr i ba lefel. Ond i qualifyio am y World Championship yn Ffrainc, oni’n rili hapus.
“Mwy na’m byd, oni isho mynd yna a neud yr amsar gorau oni’n gallu. Oddo’n ras fi yn erbyn fi’n hun, i brofi i’n hun bo fi dal yn gallu competio ar y lefel uchaf mewn competition ffitrwydd felna efo’r athletes gorau, yn enwedig efo bob dim dwi wedi bod trwy.
“Mae lot yn deud efo cemotherapi bod y corff byth yr un peth, bod chdi’n reit gwan ar ôl o a’r immune system byth yr un peth, so oni isho just profi bod o yn bosib. So dyna pam oddo’n ras reit bersonol i fi hefyd, ag oni’n hapus.
”Oni just yn meddwl i amseroedd lle oni’n gorwedd ar y gwely na yn yr ysbyty, mewn poen, ac yn teimlo’n mor diolchgar i gallu just symud y corff i competio ar y lefel oni’n competio ar y weekend. Nath huna helpu fi bwsho drwadd.”
Uchelgais
Gyda chwe mis i hyfforddi am y bencampwriaeth nesaf, mae Danny yn hyderus y bydd yn gallu cystadlu i gyrraedd brig y gystadleuaeth yn Ffrainc – ond mae’n dweud ei fod angen hefyd cadw cydbwysedd yn ei fywyd prysur.
“Na’i gal amsar i trainio at Hyrox ond eto dwi’n trio balancio pêl-droed, ac mae ‘na lot o training a gemau pwysig yn dod i fyny, efo gwaith fi fel personal trainer, trio cadw training fi’n hun i fyny i Hyrox, a wedyn bod yn dad, a cael digon o amser efo Maisie sydd yn flwydd a hanner, a gwraig fi, Ruth, hefyd. So mae bob dim yn balans.
“Yn y dyfodol, fysa gael podium spot yn Hyrox yn gôl da i mi.
"O’r rhan pêl-droed, chwarae yn Ewrop efo Caernarfon ydi be dwi isho neud, ac efo’r busnas, just i helpu gymaint o bobl a fedra’i fel personal trainer, a gael effaith positif ar pobol - dyna di'r gôls i fi rili."