Newyddion S4C

Gyrwyr trenau i barhau gyda'u streic am chwe mis arall

01/12/2023
Tren

Mae gyrwyr trenau wedi pleidleisio’n unfrydol i barhau i streicio am y chwe mis nesaf yn eu hanghydfod dros gyflogau.

Fe wnaeth aelodau o Aslef gefnogi mwy o weithredu diwydiannol ar ôl cynnal ail bleidlais, dros flwyddyn ers i'r anghydfod ddechrau.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud wrth i yrwyr trenau ddechrau ar waharddiad o wythnos ar weithio goramser sydd yn debygol o achosi aflonyddwch i wasanaethau ar draws Lloegr.

Fe allai hyn gael effaith ar rai teithwyr yng Nghymru hefyd.

Bydd aelodau undeb Aslef yn dechrau cyfres o streiciau o ddydd Sadwrn ymlaen fydd yn effeithio ar wasanaethau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.