'Ar Dwf': Cynghrair rownderi cymdeithasol newydd yn ne Cymru
'Ar Dwf': Cynghrair rownderi cymdeithasol newydd yn ne Cymru
Mae rownderi yn gamp sydd wedi ‘tyfu gyda’r galw’ dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl sefydlwyr cynghrair newydd MyRounders.
Mae'r cynghrair newydd yn cynnig cyfleoedd i bobl mewn cymunedau ar draws de Cymru i gymdeithasu.
Pan gafodd y gynghrair gyntaf ei sefydlu ym mis Tachwedd y llynedd, dim ond ychydig o dimau oedd yn rhan ohono.
Erbyn heddiw, mae dros 82 o dimau yn rhan o gynghreiriau menywod, dynion a chymysg ar draws De Cymru â 1,700 o chwaraewyr wedi’u cofrestru.
'Tyfu'
Un tîm sydd yn rhan o gynhgrair cymysg yw Green Starlets ym Mhort Talbot.
Mae Ffion Edwards, Ffion Targett, Eleanor Harris a Lowri Targett i gyd yn aelodau o’r tîm newydd a bu’r pedair yn trafod y datblygiad gyda Newyddion S4C.
Ffion Edwards yw capten Green Starlets a hi sefydlodd y tîm ym mis Awst eleni.
“Rydyn ni wedi bod yn dîm ers Awst y flwyddyn hon,” meddai Ffion.
“Dechreuon ni gyda 10 o bobl ond erbyn Medi wnaeth y tîm tyfu i 16 o bobl.
“Ni yn tîm eitha newydd i gymharu â thimau eraill.”
Cymdeithasu
Yn ôl Ffion Targett, mae sefydlu’r tîm yn lleol wedi bod o fudd i’w datblygiad nhw a chwaraewyr eraill yr ardal.
“Ni’n tîm sydd wedi lleoli yn Port Talbot achos ni gyd yn lleol a mae’n eitha cyfleus i ni gyd dod i ymarfer."
Ychwanegodd bod tyfiant y gamp wedi cynnig cyfle iddynt gymdeithasu trwy chwaraeon newydd, a thrwy’r Gymraeg hefyd.
“Nath hanner y tîm fynd i Ysgol Gyfun Ystalyfera, felly y tro olaf i ni chwarae rownderi oedd ym mlwyddyn naw ac ers hynny ni ddim wedi chwarae rownderi.”
Gyda phobl o bob oedran yn cymryd rhan, mae twf y gamp yma wedi creu ‘cymuned’ newydd yn yr ardal, medd Eleanor.
“O’n i’n siarad gyda ffrind a siarad am chwarae rownderi yn yr ysgol a jyst gweld isie achos ma jyst yn chwaraeon sy’n rili, hwylus. Mae ddim yn rhy serious.
“Ni’n rili agos nawr, ni gyd yn ffrindiau. Fi’n edrych ymlaen i ddod pob wythnos i ymarfer a chwarae.
“Pan chi’n chwarae, chi’n gweld gwahanol oedrannau fyd, chi yn chwarae yn erbyn pobl ifanc ac wedyn chi yn chwarae yn erbyn timau sydd yn henach na ni. Mae’n neis wedyn mae’n sbort i bawb."
Y sefydliad MyRounders sy’n llogi’r neuaddau chwarae ac yn cyflenwi’r dyfarnwyr.
Mae’r gamp wedi creu llu o gymunedau cymdeithasol newydd, medd Julie Clayden, sefydlydd MyRounders.
“Mae’n gallu bod yn chwaraeon sy’n eitha hiraethlon,” dywedodd.
“Mae cymaint o bobl yn siarad am chwarae rownderi yn yr ysgol ac mae pobl o bob cefndir yn chwarae erbyn heddiw – mae’r person hynaf sy’n chwarae yn 75 oed.”
Gwahanol
Ond nid yw rownderi yn gêm syml medd Julie.
“Cyn i mi ddechrau cynnal a datblygu’r cynghreiriau, roedd rhaid i mi symleiddio’r gêm achos mae’n gallu bod yn eitha cymhleth.
"Felly nes i sgimio’r rheolau nol i’w neud yn amgylchedd llawer mwy cymdeithasol."
Dros y gaeaf mae’r tîmau yn chwarae rownderi tu fewn - gêm sy'n hollol wahanol, medd chwaraewyr Green Starlets.
Esboniodd Ffion bod y gêm yn llawer cyflymach.
“Mae’n eitha gwahanol. Mae’n lot fwy gloi, mae’r chwarteri yn saith munud a tu fas ma nhw’n naw, so mae’n lot fwy gloi a ma' gwahanol reolau.
"Rhaid dod yn fyw cyfarwydd â’r rheolau tu fewn. Os ti’n bwrw’r bêl a mae’n bownsio o’r wal a ti’n dal e, ti mas a ‘so’r bêl yn teithio mor bell chwaith achos mae’n dod o’r wal," meddai hi.
Er y twf mewn poblogrwydd, mae’r trefnwyr yn wynebu’r her wythnosol o logi canolfannau chwaraeon.
“Rydym ni wedi tyfu gyda’r galw ond y broblem fwyaf yw cyfleusterau,” medd Julie.
“Mae’r canolfannau chwaraeon i gyd yn llawn gyda thimau rygbi neu bêl-droed - sy’n grêt i weld cymaint o bobl cadw’n heini, ond dy ni methu cael cyfleusterau a lle yn gyson.
“Mae’n gallu bod yn rhwystredig iawn ond ar yr un pryd ‘dy ni wedi creu cynulleidfa newydd i’r gamp.”
Prif Lun: Eleanor Harris, Ffion Edwards a Lowri Targett