
Pwysau ar y gwasanaeth iechyd: Profiad meddygfa yn Waunfawr

Pwysau ar y gwasanaeth iechyd: Profiad meddygfa yn Waunfawr
Dydi’r Gwasanaeth Iechyd fel ag y mae ar hyn o bryd, ddim yn gynaliadwy yn ôl meddyg teulu blaenllaw o’r gogledd.
Gydag amseroedd aros unedau brys ar eu hiraf eleni a’r pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans yn aruthrol, mae pryder bod meddygon teulu yn wynebu mwy o bwysau.
Mae’r gwaith o gynnig a rhoi brechiadau ffliw a covid eisoes yn mynd rhagddo ond mae rhybuddion y gallai’r gaeaf hwn, fod y mwyaf heriol eto.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n gwerthfawrogi'r gwaith sy'n cael ei wneud mewn meddygfeydd. Ac maen nhw'n pwysleiso bod nifer y meddygon teulu dan hyfforddiant wedi bod yn cynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf.
Gohebydd Newyddion S4C, Liam Evans dreuliodd y bore ym meddygfa Waunfawr ger Caernarfon er mwyn deall rhai o’r pwysau.
Am 0730’r bore, tra bod y rhan fwyaf o drigolion yn deffro neu’n paratoi am y gwaith, mae meddygfa Waunfawr eisoes yn llawn bwrlwm gyda meddygon, fferyllyddion, nyrsys a chymorthyddion iechyd oll yn paratoi.
Am 0:800 mae’r ffonau segur yn dod yn fyw wrth i drigolion lleol geisio gwneud apwyntiad i weld meddyg.
Ond fel mewn sawl meddygfa ledled Cymru mae na waith ciwio, ac yn ôl Monique Williams sy’n ateb y ffonau mae’r bore wastad yn her.
“Mai felma bob dydd, bob dydd yr un fath.. fydd [yr apwyntiadau] ‘di rhedeg allan mewn rhyw awr mashwr”, meddai.
“Wedyn ‘da ni gorfod defnyddio UPC, Urgent Primary Care, pan da ni’n llawn mae nhw’n helpu efo appointments, ond nid pawb sy’n licio hynny”, meddai.

Drws nesa i Monique yn y swyddfa mae Tegwen Hughes, rheolwraig y feddygfa a hithau wedi bod ar y ffôn ers rhyw 10 munud yn ceisio canfod bwlch i glaf sydd angen gweld meddyg.
“Mae’n anodd ffitio pawb mewn ac i blesio pawb”, meddai.
“Oherwydd bod gynno ni syrjeri yn Llanrug hefyd, mae well gan rai i fynd yno ond mai’n anodd ffitio pawb mewn a pan ma staff off hefyd mai’n anodd”.
Ganol sgwrs mae hi’n gorfod gadael wrth i’r ffonau barhau i ganu, ac unwaith eto mae hi’n ateb gan ddechrau ar y gwaith o geisio canfod bwlch i ragor o gleifion.
Eisoes yn brysur yng nghefn y feddygfa mae Gwyneth Thomas, y fferyllydd yn paratoi presgripsiynau a hithau wedi bod yn gweithio yn y feddygfa ers 37 o flynyddoedd.
“Mae’r gofynion sydd ar GP practice yn aruthrol”, meddai.
“Dio’m yn fater o dod mewn am 08:00 a gorffen am 17:00, 'da chi yma o 08:00 tan 21:00/22:00 gyda rhai o’r meddygon”.
“O’r ysbyty mae nhw’n disgwyl i GP’s wneud lot mwy dyddie ‘ma a dwi’m yn gwybod be sydd am allu newid- mae jest angen mwy o glinigon”.

Am 09:00, mae’r claf cyntaf yn cyrraedd y feddygfa ac i Dr Esyllt Llwyd a’r staff, cyn gydweithwraig sy’n dod am gymorth.
Mae Megan wedi dod am ei phigiad B12 ac am gyngor er mwyn rhoi’r gorau i ysmygu.
Mae cymryd cyfrifoldeb am iechyd personol yn neges gyson gan y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, a Dr Llwyd yn cytuno meddai.
“Be sy’n anodd ydi mae rhai pobl yn ei chael hi’n anodd cymryd cyfrifoldeb a ddim yn gwybod lle i gychwyn”.
“Ond gwaith ni ydi steario nhw drwy’r system”.
Un sy’n gwylio Dr Llwyd yn graff ydi Gwen Heledd Owen sydd ar leoliad o’i chwrs meddygaeth ac er ar ddechra’i gyrfa mae hi’n sylwi ar y pwysau sydd eisoes ar y system.
“Mae ‘na gymaint o alw a chyn lleied o adnoddau ar gael”.
“Mae’r gwasanaeth yn wych a phawb yma yn wych ond does jest dim digon o adnoddau yn anffodus a gymaint o alw amdano”.

Mae meddygfa Waunfawr wedi ei lleoli ar y stryd fawr yng nghanol y pentref mewn hen dŷ sydd wedi cael sawl estyniad.
Gyda chymaint o alw bellach, mae’r diffyg lle yn gwneud gwaith yn anodd a nifer o gleifion yn derbyn pigiadau neu dynnu gwaed ar gadair yn y gegin.
Mae cabanau dros dro hefyd wedi eu codi y tu allan ond mae'r rhain yn creu amodau anodd ganol gaeaf i gleifion a meddygon.
Yn ôl Dr Esyllt Llwyd mae’n enghraifft o’r heriau enfawr i’r gwasanaeth.
“Mae ‘n waeth na ma erioed wedi bod”,
“Dwi ‘di bod yma ers 21 mlynedd a dwi erioed di teimlo hwn.. dwi’n dod i mewn yn y bore erbyn 0800 a dwi’n gwybod di’r diwrnod ddim ar ben am 13 awr”.
“Fel mae hi ar y funud [di’r system] ddim yn gynaliadwy, dydio ddim”.
“Mae pawb yn fire fightio a da ni’n neud hynny’n dda ac mae’r gofal yn arbennig ym mhob maes ond mae angen i’r system iechyd a gofal altro yn aruthrol”.

Er gwaetha’r heriau mae’r tîm yn Waunfawr yn credu’n gryf yn y gwaith pwysig mae nhw’n ei gyflawni, ond mae’n glir fod heriau sylweddol yn atal y feddygfa hon, fel sawl un arall i allu darparu yr hyn mae'n nhw wir eisiau.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y gwaith y mae meddygon teulu – a’r holl staff gofal iechyd – yn ei wneud bob dydd.
"Mae nifer y meddygon teulu dan hyfforddiant wedi bod yn cynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf gyda 175 wedi'u recriwtio y llynedd yn unig. Cymerwyd camau hefyd i leihau'r galw ar feddygon teulu gan gynnwys buddsoddi mewn Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys a gwasanaeth 111 Press 2 ar gyfer Iechyd Meddwl.
"Bydd cyllid diweddar ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn cynyddu’r cymorth sydd ar gael i feddygon teulu trwy dimau adnoddau cymunedol ac rydym hefyd wedi cynyddu’r ystod o wasanaethau y gall fferyllwyr cymunedol eu darparu.”