
Rhieni di-Gymraeg angen mwy o gefnogaeth’ gyda gwaith cartref eu plant
Mae mam o Abertawe sydd wedi creu gwefan i helpu rhieni di-Gymraeg gyda gwaith cartref eu plant yn dweud bod rhieni angen ‘mwy o gefnogaeth’.
Yn ôl Bethan Harvey, does dim digon o gymorth i rieni di-Gymraeg sy’n penderfynu rhoi addysg Gymraeg i’w plant.
Fe gafodd hi y syniad yn ystod y pandemig a bellach mae ysgolion ar draws Cymru yn defnyddio'r wefan.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod eisiau gwneud popeth o fewn ei allu i helpu rhieni a gofalwyr di-Gymraeg i gefnogi eu plant trwy addysg cyfrwng Cymraeg.
Fe ddechreuodd Bethan helpu ei ffrindiau di-Gymraeg wrth gyfieithu geiriau a’i recordio ei hun ar ei ffôn symudol.
“O nhw’n ffonio fi a lan a dweud ‘oh my goodness mae llyfr gyda fi a fi methu darllen gair ohono fe, sut ti’n gweud hyn a hyn?’
”Felly byddai’n recordio fe ar y ffôn, ac anfon hwnna draw, a wedyn o ni’n cael neges arall yn dweud ‘that’s great, but what does that mean?
“Felly wnes i wneud cyfieithad bach, ac o'n i’n siarad â rhieni a nes i sylweddoli bod diffyg adnoddau fel hyn.”
Yn ôl Bethan, mae angen mwy o gefnogaeth i rieni di-Gymraeg sy’n penderfynu rhoi addysg gymraeg i’w plant.
“Ti ddim yn gallu cefnogi nhw yn yr un ffordd, a fi’n credu bod rhieni eisiau cefnogi eu plant trwy addysg.
“Dydy e ddim yn digon dda i ddisgwyl i’r plant cyfieithu.
“Mae’r ymateb wedi bod yn wych a dwi’n derbyn negeseuon bron bob dydd gan rieni sy’n dweud ei fod yn help enfawr.”
Yn ol ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae dros 65,000 o blant yng Nghymru mewn ysgolion cynradd Cymraeg neu ddwyieithog.
Mae ystadegau o’r Arolwg Defnydd Iaith diwethaf yn dangos fod 28% o’r holl siaradwyr Cymraeg yn dod o gartrefi di-Gymraeg, ac roedd 75% y rheini sydd yn dod o gartrefi heb yr un rhiant rhugl, wedi dechrau dysgu siarad yr iaith yn yr ysgol.
Yn ôl rhai rhieni yn Ysgol Llwynderw yn y Mwmbwls, mae adnoddau Bethan yn golygu bod yr holl deulu yn gallu helpu gyda gwaith cartref.
Penderfynodd Adam Turner anfon ei fab Gruff i ysgol gynradd Gymraeg. Mae e a'i wraig yn dysgu’r iaith.
“Pan benderfynon ni i anfon Gruff i ysgol Gymraeg roeddwn ni eisiau gymaint o gymorth a phosib.
“Mae’r adnoddau yn arbennig ar allu dechrau dysgu’r iaith yn gynnar. Roedd hyd yn oed pethau mor syml â’r wyddor a chael hwnna’n cywir gyda fe cyn iddo dechrau yn yr ysgol yn grêt.”

Mae mab Sammie Bond, Cadno, hefyd yn mwynhau defnyddio’r wefan.
“Mae hwn yn helpu fi i gael syniad o beth mae Cadno yn ei wneud yn y dosbarth, ond hefyd dydy fy nghŵr i ddim yn siarad Cymraeg felly mae’n grêt bod e’n gallu gwrando ar y fideos hefyd, a felly ni gyd fel teulu yn gallu helpu.”
Yn ol pennaeth Ysgol Gymraeg Llwynderw, Rachel Collins, mae’r adnoddau yn rhan bwysig o’i waith pan yn groesawu plant newydd i’r ysgol.
“Mae’n hanfodol o bwysig. Un o’r cwestiynau cyntaf fi’n gael wrth rieni di-Gymraeg pan fi’n cyflwyno darpar i rieni newydd, yw ‘sut gallai cefnogi fy mhlentyn adref?’
”A mae hwn yn berffaith i wneud hynny. Mae popeth yn un lle.”
Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, “Rydyn ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu rhieni a gofalwyr di-Gymraeg wrth iddyn nhw gefnogi eu plant trwy addysg cyfrwng Cymraeg. Gall hyn hefyd fod yn gyfle gwych iddynt ddysgu Cymraeg ochr yn ochr â'u plant.
“Lle bynnag yr ydych ar eich taith Gymraeg, mae cyngor ar Hwb a thrwy wefan Cymraeg i blant, sydd yn darparu cymorth ac adnoddau i rieni i helpu eu plant i ddefnyddio eu Cymraeg.
“Rydym hefyd wedi comisiynu RhAG (Rhieni dros addysg Gymraeg) i greu gwefan a fforwm i gefnogi rhieni gydag adnoddau Cymraeg, gan roi sylw arbennig i rieni di-Gymraeg sydd â phlant mewn addysg cyfrwng Cymraeg.”