
Menyw yn ail gyfarfod dyn wnaeth achub ei bywyd yn y môr
Mae menyw a aeth i drafferthion yn y môr yn Sir Benfro wedi ail gyfarfod â'r dyn wnaeth achub ei bywyd.
Cafodd Joanna Hicks o Lundain ei dal mewn cerrynt cryf wrth nofio ar draeth Niwgwl ym mis Gorffennaf 2023. Roedd hi yno ar wyliau gyda'i ffrindiau ac wedi penderfynu mynd i nofio yn gynnar yn y bore.
"Ar y diwrnod hwnnw fe wnes i ffeindio fy hun allan o fy nyfnder ac wedi cael fy ysgubo i ffwrdd. Dwi'n nofwraig dda ond ar y diwrnod hwnnw o'n i jest ddim yn gallu mynd yn ôl at y lan," meddai wrth BBC Radio Wales Breakfast.
Fe aeth Joanna yn anymwybodol ac mae'n dweud nad yw hi'n "cofio dim wedyn".
Ond fe gafodd ei hachub gan un o'r achubwyr bywyd, Matty McLeod.
Mae'n dweud iddo neidio i mewn i'r môr ond doedd ganddo ddim syniad lle yr oedd hi.

"Fe wnes i jest padlo allan yn y gobaith o'i gweld hi a diolch byth fe wnes i ei darganfod hi gyda'i hwyneb i lawr yn y dŵr," meddai Matty.
Roedd yna nyrs ar y traeth pan ddaeth Matty a Joanna allan o'r môr ac yn fuan wedi hynny fe gyrhaeddodd y gwasanaethau brys.
"Mi oedd yr holl bobl yma o gwmpas Joanna ac fe wnes i feddwl, mae'r holl bobl yma ond roedd hi'n ymddangos ar ei phen ei hun yn cael diwrnod gwaethaf ei bywyd," ychwanegodd Matty.
"Nes i jest meddwl, 'Os mai hon fyddai fy mam i be fydden ni eisiau i rywun wneud iddi?' Felly nes i eistedd a gafael yn ei llaw. Fe wnaethon ni ei chario hi i'r hofrennydd ac o'n i jest yn meddwl mai dyna fyddai'r tro olaf y bydden ni yn ei gweld hi."
Pan gyrhaeddodd Ysbyty Glangwili fe ddywedon nhw mai dim ond 1% o siawns oedd yna y byddai hi'n goroesi. Fe dreuliodd Joanna 10 niwrnod yn yr uned gofal dwys mewn coma cyn iddi agor ei llygaid.
Ers hynny mae wedi gwneud adferiad llwyr. Ddechrau'r wythnos fe aeth Joanna yn ôl i draeth Niwgwl am y tro cyntaf a chyfarfod Matty a rhai o'r achubwyr bywyd eraill yno, profiad oedd yn "wych".
Mae'n dweud bod yr hyn sydd wedi digwydd wedi gwneud iddi "werthfawrogi pa mor anwadal" y mae'r môr yn gallu bod.
Lluniau: RNLI