Newyddion S4C

Cofnodi'r achos dynol cyntaf o ffliw moch yn y DU

27/11/2023
Salwch / Meicroscop

Mae’r achos dynol cyntaf o ffliw sydd yn debyg i straen sydd yn ymledu rhwng moch wedi ei gofnodi yn y DU.

Yn ôl Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig (UKHSA), mae un person wedi dal straen H1N2 o'r ffliw.

Fe wnaeth y person, sydd yn gweithio gyda moch, ddioddef gyda "salwch ysgafn" yn sgil y feirws ac mae bellach wedi gwella’n llawn.

Mae’r Asiantaeth nawr yn gweithio i geisio canfod cysylltiadau agos y person er mwyn ceisio atal y feirws rhag ymledu.

Dyw’r awdurdodau ddim yn gwybod ar hyn o bryd pa mor hawdd y gallai’r feirws ymledu, ond nid oes tystiolaeth ei fod yn ymledu o berson i berson fel ffliwiau cyffredin.

Mae 50 o achosion dynol o’r straen H1N2 wedi eu cofnodi'n fyd eang.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.