Newyddion S4C

Cau rhan o’r A470 am wythnosau wedi oedi ar ôl gwrthdrawiad trên

19/12/2024
Gwrthdrawiad

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod angen symud ymlaen gyda'r gwaith o gau rhan o’r A470 am gyfnod ar ôl oedi yn dilyn damwain trên Llanbrynmair.

Bydd yr A470 rhwng Talerddig a Dolfach ar gau rhwng 20 Ionawr ag 11 Ebrill.

Daw hyn yn dilyn gohirio'r gwaith oherwydd y gwrthdrawiad ar reilffordd y Cambria ym mis Hydref.

Bu farw David Tudor Evans o Gapel Dewi ar ôl y gwrthdrawiad rhwng dau drên ger Llanbrynmair ar 21 Hydref.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd y gwaith yn gwneud yr A470 yn “fwy cydnerth” ac yn golygu na fydd y gofyn i gau'r ffordd mewn unrhyw argyfwng.

“Mae'r gwaith hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall y ffordd aros ar agor yn y blynyddoedd i ddod,” meddai llefarydd.

“Rydym yn deall y bydd hyn yn achosi tarfu yn y tymor byr tra bo’r gwaith yn mynd rhagddo, ac rydym yn diolch i yrwyr am eu hamynedd.”

Sefydlogi

Bydd y gwaith yn datrys “unwaith ac am byth” broblem y wal sy'n cynnal y ffordd, meddai Llywodraeth Cymru. 

Disgynnodd honno ym mis Hydref 2023 gan orfodi cau'r ffordd. Mae goleuadau wedi bod yn rheoli'r traffig ers hynny.

Bydd goleuadau traffig hefyd yn cael eu gosod yno am gyfnod ar ôl ail-agor y ffordd.

Bydd yr holl drefniadau rheoli traffig yn dod i ben ar y safle erbyn 30 Ebrill 2025.

Mae gan ran o lwybr y dargyfeirio, yr A458 yn Nant y Dugoed, hefyd signalau traffig ar waith yn dilyn cwymp wal.

Bydd gwaith i sefydlogi'r wal yn cael ei wneud cyn gynted ag y bydd y gwaith yn Nhalerddig wedi'i gwblhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.