Newyddion S4C

Narcolepsi: Myfyrwyr yn rhedeg o Fryste i Gaerdydd i godi ymwybyddiaeth am y cyflwr

27/11/2023
Freddie a'i ffrindiau (PA)

Bydd myfyriwr sydd â narcolepsi yn ceisio rhedeg 70km gyda phump o’i ffrindiau er mwyn codi ymwybyddiaeth am y cyflwr.

Bydd yn rhaid i Freddie Downland gymryd sawl egwyl yn ystod yr her er mwyn cael cysgu, wrth iddo fo a’i gyfeillion ym Mhrifysgol Bryste redeg yr holl ffordd i Gaerdydd.

Bydd y criw hefyd yn codi arian ar gyfer elusennau Mind a Narcolepsy UK.

Mae narcolepsi yn gyflwr sy'n effeithio ar allu'r ymennydd i reoli patrymau cwsg. 

Yn 10 oed, roedd Freddie yn fachgen cymdeithasol, yn bêl-droediwr dawnus ac yn aelod o gôr bechgyn mewn eglwys yn Southwark, yn Llundain.

Image
Freddie
Freddie Downland

Ond ar ddechrau profi cyfnodau hir o flinder, fe gafodd ddiagnosis o narcolepsi a cataplexy yn 11 oed.

“Roedd yn un o gyfnodau anoddaf fy mywyd,” dywedodd Mr Dowland, sydd yn dod o ogledd Llundain.

“Ces i fy rhoi ar bob math o gyffuriau, gyda rhai sgil-effeithiau drwg. Newidiodd fy mywyd yn llwyr a threuliais y rhan fwyaf o fy amser yn cysgu yn yr ystafell feddygol.

“Dechreuais golli cysylltiadau cymdeithasol a magu llawer o bwysau. Roeddwn i’n grac ac yn rhwystredig.”

'Yr her fwyaf'

Bellach, mae Freddie yn 21 oed ac yn astudio daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bryste.

Image
Freddie a'i ffrindiau yn hyfforddi am yr her.
Freddie a'i ffrindiau yn hyfforddi am yr her

Mae'n rhaid rheoli’r cyflwr gyda meddyginiaeth, cyfnodau o gwsg byr sydd wedi eu hamserlennu, a dewisiadau am ei fywyd bob dydd, fel cadw amser gwely rheolaidd.

Am 06.00 ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr, bydd Freddie a’i ffrindiau yn cychwyn o’u tŷ ym Mryste, i redeg 70kn i Gastell Caerdydd, ble bydd eu teuluoedd yn aros i’w croesawu.

Bydd angen iddo stopio am gwsg yn y car sydd yn eu dilyn.

Dywedodd Mr Dowland wrth asiantaeth PA: ““Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n gallu rhedeg hanner marathon, heb sôn am hyn.

“Dyma’r her fwyaf mae unrhyw un ohonom wedi’i gwneud – gallai fod dagrau, anafiadau, gallai unrhyw beth ddigwydd.

“Mae’n wych codi ymwybyddiaeth am narcolepsi oherwydd mae diffyg dealltwriaeth o’i gwmpas. Nid dim ond rhywun sy’n ddiog neu’n hoffi cysgu yw e, mae llawer mwy iddo na hynny.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.