Newyddion S4C

Y cyflwynydd Annabel Giles o Bont-y-pŵl wedi marw yn dilyn diagnosis o diwmor ar yr ymennydd

21/11/2023
Annabel Giles

Mae’r cyflwynydd, actores a’r model Annabel Giles wedi marw yn 64 oed wedi iddi gael diagnosis o diwmor ar yr ymennydd.

Roedd Annabel Giles, yn wreiddiol o Bont-y-pŵl yn Nhorfaen, yn fwyaf adnabyddus am gyflwyno rhaglen teledu ITV Posh Frocks And New Trousers ochr yn ochr gyda Sarah Greene.

Roedd hi hefyd wedi cymryd rhan mewn cyfres realiti I’m a Celebrity… Get Me Out Of Here! yn 2013, ac wedi ymddangos ar sawl sioe banel ar y teledu dros y blynyddoedd, gan gynnwys The Wright Stuff gyda Matthew Wright.

Mewn datganiad ar Instagram, cadarnhaodd ei phlant Molly a Tedd bod eu “mam anhygoel” wedi marw ddydd Llun mewn Hosbis Martlets, yn Hove. 

'Angerddol'

Bu farw wedi iddi gael diagnosis o Glioblastoma cam 4 ym mis Mehefin, meddai eu plant.

“Yn ystod ei hwythnosau olaf, roedd hi’n angerddol am godi ymwybyddiaeth dros Glioblastoma, gan ddangos ei hymrwymiad parhaus tuag at helpu pobl eraill," medden nhw.

“Yn ffyddlon i’w natur, roedd hi wedi cadw ei hysbryd yn uchel ac yn tynnu coes nes y diwedd.

“Bydd ei hiwmor a’r sŵn ohoni hi’n chwerthin yn ein hysbrydoli ni i fyw bywyd i’r eithaf, yn union fel y gwnaeth hi."

Roedd ei phlant hefyd yn diolch pawb am eu cefnogaeth, gan ofyn i unrhyw roddion cael eu darparu i Hosbis Martlets.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.