Teyrnged i dad 'balch' fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Mercher wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Peter Pendlebury, 76 oed yn dilyn gwrthdrawiad ar Heol Simonston, Pen-y-bont ar Ogwr tua 11.55 ddydd Mercher 15 Tachwedd.
Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud â Honda Jazz arian a beiciwr.
Dywedodd ei deulu: “Er bod Peter wedi’i eni yn Blackpool, ymgartrefodd a bu’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr am y deugain mlynedd diwethaf.
“Roedd yn ŵr cariadus ers 53 o flynyddoedd, yn dad balch i dri o blant ac yn daid balch i bedwar o wyrion bendigedig.
“Roedd Peter yn ffotograffydd amatur brwd, yn caru ei feic modur ac yn feiciwr brwd. Roedd yn aelod o glwb seiclo’r Ffenics a bu’n codi arian gydag ef i wahanol elusennau dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf.
“Roedd Peter yn aelod uchel ei barch o’r gymuned a bydd colled fawr ar ei ôl gan ei deulu a’i ffrindiau i gyd.
“Yn olaf, hoffem ddiolch i’r nyrsys yn Ysbyty Athrofaol Cymru am eu caredigrwydd, a diolch i’r holl wasanaethau brys ac unrhyw aelodau o’r cyhoedd a oedd yn y fan a'r lle.”
Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad, ac yn apelio am unrhyw dystion a allai helpu gyda’r ymchwiliad i gysylltu â nhw gan ddyfynnu cyfeirnod 2300389022.