Newyddion S4C

Posibilrwydd o bedwerydd Parc Cenedlaethol yng Nghymru

21/11/2023

Posibilrwydd o bedwerydd Parc Cenedlaethol yng Nghymru

Ymhen ychydig flynyddoedd, fe all Parc Cenedlaethol gael ei sefydlu yn y gogledd ddwyrain, y pedwerydd parc yma yng Nghymru.

Mae'r map drafft yn ymestyn o'r glannau, lawr am fryniau Clwyd ac yna i Ddyffryn Dyfrdwy a rhannau o ogledd Powys.

Gyda bryniau Clwyd i'w gweld yn glir mae'r maes carafanau yma ger Rhuthun fel nifer o fusnesau lleol yn deud y byddan nhw'n elwa o gael mwy o ymwelwyr i'r ardal. Fatha busnes yn yr adran dwristiaeth wneith o ddod a mwy o fusnes gobeithio, dod a fwy o caravans mewn.

Maen nhw yn defnyddio'r siop a'r cynnyrch lleol. 'Dan ni yn poeni am reolau ddeith mewn fel busnesau lle allwn ni symud ymlaen yn y dyfodol o ran cynllunio a datblygu.

Ond faint o groeso sy 'na mewn lleoliad sydd eisoes yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol?

Dw i ddim yn meddwl wneith y parc cenedlaethol neud llawer o wahaniaeth i ni.

Hoffwn i weld parc lle mae yna lefydd dydy pobl ddim yn mynd. No-access zone, limited access zone a wedyn ardal gyda mwy o lwybrau cyhoeddus.

Ychydig i'r de, yng ngogledd Powys mae yna gwestiynau yn codi a ddylai'r ardal hon gael ei hystyried o gwbl.

Mae nifer o heriau mae parc cenedlaethol yn creu. Mae'n creu pwysau ychwanegol. Mae statws parc cenedlaethol yn creu delwedd ramantus iawn.

Mae pobl yn heidio yma. Mae'n creu honey pots fel Ardal y Llynnoedd yn Lloegr. Gormodedd o bobl yn heidio i'r un llefydd. Mae'n creu pwysau ychwanegol ar dai lleol. Pobl isio delwedd clên, cefn gwlad. Mae'n gwthio prysiau yn uchel sydd eisioes yn broblem.

I lawr y ffordd yn Llanrhaedr-ym-mochnant, mae'r ffermwr yma yn gwrthwynebu'r cynlluniau yn gryf.

Dw i ddim yn gweld yr un fantais. 'Mond anfanteision o ran y parc. Fydd o'n costio'r cyngor sir gymaint fwy. Yn enwedig rhywun efo planning, adeiladu.

A'r farn ar yr aelwyd yn un debyg. Ti isio byw mewn national park, Els? Ie neu na? Ti isio byw yn un, Robs? Clara? Beth am ti, Betsi? Yn dad i bedwar o blant, mae Tom yn poeni am eu dyfodol yn byw o fewn ffiniau parc cenedlaethol.

Anoddach cadw pob cenhedlaeth yng nghefn gwlad Cymru yn enwedig y Cymry Cymraeg. Maen nhw'n symud i ffwrdd i edrych am waith a methu fforddio tai. Mae'r parc yn mynd i ladd cymunedau a lladd yr iaith Gymraeg. Digon i'w drafod felly yn barod at gamau nesa'r cynllun yn y flwyddyn newydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.