Newyddion S4C

Nicola Bulley: Adroddiad yn beirniadu’r heddlu am rannu gwybodaeth bersonol ‘yn ddi-angen’

21/11/2023
Nicola Bulley

Roedd datgelu gwybodaeth bersonol am iechyd Nicola Bulley yn “ddi-angen”, yn ôl adolygiad o’r ffordd y gwnaeth yr heddlu ymdrin â’i diflaniad.

Fe gafodd Heddlu Swydd Gaerhirfryn eu beirniadu am ddatgelu manylion am sefyllfa feddygol Ms Bulley yn gyhoeddus yn gynharach eleni, gyda’r Prif Weinidog Rishi Sunak ymysg yr rheini oedd wedi mynegi pryder ar y pryd.

Cafwyd hyd i gorff Ms Bulley, 45, mam i ddau o blant, yn Afon Wyre ar Chwefror 19, tua milltir o’r fan lle y diflannodd hi wrth gerdded ei chi yn St Michael’s on Wyre ar Ionawr 27.

Daeth cwest i'r casgliad bod ei marwolaeth yn ddamweiniol, wrth iddi syrthio i'r afon ar y diwrnod y diflannodd a bu farw bron yn syth yn y dŵr oer.

Dywedodd teulu Ms Bulley eu bod yn parhau i alaru ar ei cholled ac nad oedden nhw am wneud sylw ar yr adroddiad.

Adolygiad

Canfu’r adolygiad, a gyhoeddwyd ddydd Mawrth, fod yr ymchwiliad i berson ar goll wedi'i drin yn dda o safbwynt plismona, ond bod yr heddlu wedi colli rheolaeth ar y naratif cyhoeddus yn gynnar.

Methodd uwch swyddogion â briffio gohebwyr o’r wasg oherwydd bod ymddiriedaeth rhwng yr heddlu a'r cyfryngau wedi chwalu - gan arwain at ddiffyg gwybodaeth a lled dyfalu ynglŷn ag amgylchiadau diflaniad Ms Bulley.

Mae’r adroddiad 143 tudalen, sy’n cynnwys 17 o argymhellion, yn beirniadu uwch swyddogion Heddlu Swydd Gaerhirfry.

Mae'n beirniadu cwestiynu diwylliant yr heddlu, gan honni fod prif swyddogion “wedi arsylwi ond heb weithredu” ac wedi methu â dangos cefnogaeth ddigonol i rengoedd is.

Roedd y lefel “enfawr” o ddyfalu ar y cyfryngau cymdeithasol wedi rhoi’r heddlu dan bwysau dwys yn ystod yr ymchwiliad i ddiflaniad Ms Bulley.

Fe gafodd 6,500 o erthyglau rhyngwladol eu hysgrifennu mewn diwrnod pan yr oedd yr ymchwiliad ar ei hanterth, ac roedd fideos TikTok am yr achos wedi cael eu gweld 270 miliwn o weithiau.

Fe wnaeth swyddfa'r wasg Heddlu Swydd Gaerhirfryn gofnodi fwy na 500 o alwadau gan y cyfryngau a 75,000 o sylwadau cyfryngau cymdeithasol ar yr achos mewn tua mis.

'Cydnabod effaith y cyfryngau cymdeithasol'

Un o gasgliadau’r adolygiad o’r ymchwiliad, a gafodd ei harwain gan y Coleg Plismona, oedd y dylai’r achos fod wedi’i ddatgan yn ddigwyddiad difrifol, gyda mwy o gabolbwyntio ar y cyfryngau a defnydd cynharach o swyddogion cyswllt teulu.

Dywedodd Dr Iain Raphael, a arweiniodd yr adolygiad: “Mae’r berthynas gwaith proffesiynol rhwng yr heddlu a’r cyfryngau yn hanfodol ar gyfer hyder y cyhoedd.

“Mae’r adroddiad yn ei gwneud yn glir, heb hyn, y gall lled-ddyfalu ddigwydd heb ei wirio ac arwain at ffrwydrad rhyfeddol o ddiddordeb yn y cyfryngau a’r cyhoedd yn yr achos.

“Rhaid i blismona hefyd gydnabod yr effaith y mae cyfryngau cymdeithasol yn ei gael nawr.

“Yn y pen draw, dylai’r heddlu geisio bod y cyntaf â’r gwir a sicrhau bod gan y cyhoedd fynediad at gywir ac awdurdod gwybodaeth gyfeiriadol pan fydd ei hangen fwyaf.”

‘Effaith andwyol’

Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Sacha Hatchett o Heddlu Swydd Gaerhirfryn: “Roedd y galw gan y cyfryngau yn enfawr ar brydiau, a gyda’r fantais o edrych yn ôl, heb os nac oni bai, mae yna bethau y byddem yn eu gwneud yn wahanol yn y dyfodol. Yn wir, rydym eisoes wedi dechrau gwneud hynny.

“Does dim amheuaeth bod effaith y cyfryngau cymdeithasol, fel y gwelsom yn yr achos hwn, yn faes sy’n peri pryder i blismona’n gyffredinol, sy’n gofyn am fwy o ffocws yn y dyfodol.

“Fe gafodd hynny effaith andwyol ar y teulu, yr ymchwiliad, a’n staff, yn ogystal â dylanwadu ar adroddiadau ehangach yn y cyfryngau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.