Angen sicrhau bod astudio'r Gymraeg yn digwydd yn naturiol
Angen sicrhau bod astudio'r Gymraeg yn digwydd yn naturiol
Fel rhan o'r gradd? Gwych. Sgwrs gyda'r Comisiynydd am yr iaith a'i manteision.
Maen nhw eisiau aros yng Nghymru eisiau astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Maen nhw eisiau defnyddio'r Gymraeg yn y dyfodol.
Dylen ni ddarparu hynny iddyn nhw. Ti'n bwriadu mynd yn ddeintydd. Gallai'r Gymraeg fod yn holl bwysig. Bydda i'n defnyddio'r Gymraeg, sgyrsiau gyda'r patients sydd yn siarad Cymraeg. Falle bydda i'n dewis cwrs os dw i'n mynd i Gaerdydd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Beth am yr agwedd gyffredinol ar yr iard? Ai Saesneg mewn gwirionedd yw'r iaith? Fi'n credu yw e, ie. Fwy allan o dyna beth mae pobl yn gyfarwydd â.
Mae pobl yn dechrau newid. Ac ar ôl holi dros fil o ddisgyblion ôl-16 sy'n astudio drwy'r Gymraeg neu'n ddwyieithog mae canfyddiadau Comisiynydd y Gymraeg yn ddigon cadarnhaol Roedd 90% er enghraifft yn falch o allu siarad Cymraeg a thros 80% yn teimlo y bydd y Gymraeg o gymorth wrth sicrhau swydd yn y dyfodol.
Ffigyrau calonogol felly ar y cyfan er bod 'na le i boeni o hyd. O'r siaradwyr Cymraeg sy'n bwriadu parhau a'u haddysg ar ôl ysgol neu goleg, 40% yn unig oedd yn bwriadu aros yng Nghymru. Mae hynny yn peri pryder i fi.
Ni'n gwybod bod myfyrwyr yn Lloegr a'r Alban bod 95% yn aros yn eu gwledydd. Os ni ishe cymunedau Cymraeg yn y dyfodol ac os ni ishe cadw pobl ifanc Cymru yng Nghymru i helpu ni i gyflawni gwasanaethau mae ishe i ni feddwl am ein polisïau o ran myfyrwyr i'r dyfodol.
Mae Dad ddim yn siarad Cymraeg, oedd Mam ddim yn siarad Cymraeg. Ond ar ôl anfon ni i ysgol oedd hi'n awyddus i ddysgu a dechrau o'r cychwyn.
Stori o lwyddiant ardderchog yw hon gan Maddie a'i mam bellach yn dysgu mewn ysgol Gymraeg ond fel nifer o'i chyfoedion ei bwriad yw gadael Cymru er mwyn parhau a'i hastudiaethau mewn prifysgol.
Er mai'r gobaith yw dychwelyd i weithio yma.
Mae cyflogwyr yn edrych yn ffafriol tuag at ddwyieithrwydd. Yn y dyfodol, pan dw i'n edrych am swydd fi'n gobeithio fydd e'n fanteisiol iawn i gael y gallu i siarad Cymraeg.
A hithau wedi astudio gradd yn y Gymraeg fe aeth y cyflwynydd pêl-droed yma ati ar y cyfryngau cymdeithasol i danlinellu gwerth y radd honno i'w gyrfa.
A'r cyfan wedi denu sylw anferthol.
Wnes i greu'r fideo i ddangos faint o ddrysau mae astudio'r iaith wedi agor i fi.
O'n i ddim yn meddwl byddai fe'n cael cymaint o sylw ond fi wedi cael sylwadau rili neis.
Ysgolion yn rhannu'r fideo. Os mae fe wedi ysbrydoli rhywun i astudio'r Gymraeg, fi'n hapus.
Mae 'na awydd clir i astudio drwy'r Gymraeg. A'i defnyddio hefyd. Sicrhau bod hynny'n digwydd yn naturiol, yn gymunedol yw'r her.