Newyddion S4C

Gwrthod apêl cynllunio i godi tŵr 51 metr o uchder ar fynyddoedd y Preseli

21/11/2023
mast

Mae apêl cynllunio gan gwmni oedd am adeiladu tŵr 51 metr o uchder ar fynyddoedd y Preseli yn Sir Benfro wedi ei wrthod.

Cafodd y cais gwreiddiol ei wneud gan Brittania Towers II Ltd, a'i wrthod gan swyddogion o Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ym mis Hydref 2022.

Bwriad codi'r tŵr ger Rosebush oedd i drosglwyddo data rhwng Llundain a Wexford yn Iwerddon.

Wrth wrthod yr apêl, dywedodd arolygydd o Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru mai'r prif reswm am ddod i'r penderfyniad oedd effaith y datblygiad arfaethedig ar dirlun yr ardal.

Yn ei adroddiad, dywedodd yr arolygydd: "Rwyf yn ystyried y byddai'r tŵr, y dysglau a'r antennae arfaethedig, oherwydd eu lleoliad a'u huchder, yn cael effaith andwyol sylweddol ar dirwedd y Parc Cenedlaethol. 

"Ni fyddai'r niwed hwn yn cael ei liniaru i unrhyw raddau sylweddol trwy orffen y mast mewn gwahanol liw i'r hyn a gynigiwyd yn wreiddiol. 

"Mae ymddangosiad amlwg ddiwydiannol a modern y datblygiad arfaethedig, gan gynnwys y cypyrddau offer a'r ffensys, o ddifrif yn groes i ac yn amharu ar yr ymdeimlad o leoliad anghysbell a gwyllt a nodir fel rhinweddau arbennig y dirwedd bwysig hon.

"Dywed yr apelydd, ac eithrio bod yn y Parc Cenedlaethol, nad oes unrhyw ddynodiadau penodol sy'n effeithio ar y safle. Mae Parciau Cenedlaethol yn mwynhau'r lefel uchaf o ddiogelu tirwedd ac nid oes angen unrhyw ddynodiad arall ar yr ardal o amgylch y safle yn hyn o beth. 

"Rydw i'n ffeindio y byddai'r datblygiad arfaethedig yn achosi niwed difrifol i dirwedd y Parc Cenedlaethol..."

Llun: Argraff artis o ddogfen gynllunio

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.