Rhybudd newydd am rew i rannau o Gymru
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd newydd melyn am rew i rannau o Gymru a fydd yn ymestyn nes fore ddydd Sadwrn.
Daeth rybudd am rew mewn rhannau o’r gogledd ddod i ben am 10.00 fore dydd Gwener.
Mae rhybudd newydd am rew bellach wedi ei gyhoeddi rhwng 16.00 ddydd Gwener a 10.00 ddydd Sadwrn.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y bydd y rhew yn debygol o greu “amodau teithio heriol".
Maen nhw’n annog pobl i fod yn wyliadwrus o rew ar y ffyrdd, palmentydd a llwybrau seiclo.
Fe allai pobl dioddef anafiadau petai iddyn nhw gwympo o ganlyniad i’r rhew, ychwanegodd.
Daw’r rhybudd yn dilyn cawodydd o law ac eira mewn mannau ddydd Iau sydd bellach wedi rhewi dros nos, medden nhw.
Bydd rhybudd melyn arall am rew ac eira yn dod i rym ar gyfer Cymru gyfan ganol dydd ddydd Sadwrn hyd at ddiwedd ddydd Sul.
Fe fydd y rhybudd melyn am rew yn effeithio ar y siroedd canlynol ddydd Gwener a Sadwrn:
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Gwynedd
- Powys
- Wrecsam