Newyddion S4C

Norofirws: Annog rhieni i fod yn 'wyliadwrus' wrth i nifer yr achosion gynyddu yng Nghymru

Plentyn sal

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni a gofalwyr i fod yn “wyliadwrus” am symptomau norofeirws cyn i ysgolion a meithrinfeydd ailagor, wrth i nifer yr achosion o'r salwch gynyddu yng Nghymru.

Maen nhw wedi rhybuddio fod nifer yr achosion wedi cynyddu 26% yn yr wythnos hyd at 22 Rhagfyr – o 39 i 49.

Roedd nifer yr achosion rhwng 30 Medi a 22 Rhagfyr 2024 yn 42% yn uwch na’r llynedd yn ogystal. 

Dylai plant sydd â symptomau norofeirws – sef dolur rhydd (diarrhoea) a/neu chwydu – gadw draw o'r ysgol neu'r feithrinfa.

Dylen nhw aros adref am 48 awr ar ôl i'w symptomau ddod i ben, medd Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Dywedodd y Ddirprwy Gyfarwyddwr Diogelu Iechyd, Wendi Shepherd ei bod yn disgwyl gweld cynnydd yn nifer yr achosion o norofeirws adeg hon o’r flwyddyn. 

Ond, fe rybuddiodd ei bod yn “pryderu am gynnydd yn nifer yr achosion y gaeaf hwn o gymharu â'r llynedd".

“Y peth pwysicaf y gallwn ei wneud i atal lledaeniad yw sicrhau bod plant yn cael eu cadw allan o'r ysgol neu'r feithrinfa am 48 awr ar ôl i'w symptomau ddod i ben,” meddai.

Symptomau

Prif symptomau norofeirws yw chwydu a dolur rhydd. 

Mae symptomau eraill yn cynnwys twymyn ysgafn, cur pen, crampiau yn y stumog a phoen yn aelodau'r corff.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi annog pobl sy'n sâl â symptomau norofeirws i olchi eu dwylo'n drylwyr â sebon a dŵr cynnes am o leiaf 30 eiliad ar ôl defnyddio’r toiled a chyn paratoi bwyd.  

Ni ddylen nhw rannu tywelion ag eraill, a dylent ystyried defnyddio toiled ar wahân os yw hynny'n bosibl, ychwanegodd. 

Fe allai hylendid golchi dwylo da hefyd atal lledaeniad feirysau tymhorol eraill fel ffliw, a feirws syncytiol anadlol (RSV).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.