Newyddion S4C

Daw haul ar fryn? 2024 oedd un o'r blynyddoedd lleiaf heulog yng Nghymru

Ynys y Barri

Os ydych chi’n teimlo na welsoch chi lawer o’r haul yn 2024, roeddech chi’n iawn.

Ychydig iawn o heulwen a welodd Cymru yn 2024 yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Roedd y llynedd yn y pumed safle o ran y blynyddoedd lleiaf heulog yng Nghymru ers dechrau cadw cofnodion dros ganrif yn ôl, yn 1910.

Gwelodd Cymru 85% yn unig o’r cyfartaledd arferol o oriau o heulwen mewn blwyddyn.

Ardaloedd Llanrwst a gogledd Powys oedd y mwyaf llwm gydag 80% yn unig o’r oriau heulwen arferol, gyda Phen Llŷn, Sir Fôn a Bro Morgannwg yn gwneud yn well gan weld 90% o'u horiau heulwen arferol.

Prinder heulwen a mwy o law

Yn ogystal â phrinder heulwen, fe welodd Cymru mwy o law na’r arfer yn hanner cyntaf y flwyddyn yn 2024. 

Roedd y chwe mis rhwng Tachwedd 2023 a Mawrth 2024 y gwlypaf ar gofnod yng Nghymru a Lloegr. 

Fe gafodd Cymru ei daro gan stormydd gwael ar fwy nag un achlysur yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hefyd. 

Roedd Storm Bert ar ddiwedd mis Tachwedd wedi achosi llifogydd difrifol ledled de a de-ddwyrain Cymru, gydag ardal Pontypridd ymhlith y trefi a gafodd eu taro waethaf. 

Dechrau mis Rhagfyr 2024 roedd gwynt Storm Darragh wedi achosi difrod mawr, gydag ardaloedd yng ngorllewin Cymru yn cael eu heffeithio waethaf y tro hwn.

Cynhesu byd eang

Er bod Cymru wedi profi blwyddyn heb lawer o heulwen, 2024 oedd ymhlith y 10 blwyddyn poethaf ar gofnod yn y DU. 

Ac mae gwyddonwyr o’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio mai cynhesu byd eang sydd wrth wraidd hynny.

“Unwaith eto, mae hyn yn enghraifft glir bod ein hinsawdd yn newid,” meddai Mike Kendon. 

Dywedodd fod y 10 mlynedd diwethaf wedi bod yn fwy cynnes na’r cyfartaledd ar gyfer 1991-2020.

“Da ni heb gael blwyddyn sydd ymhlith y 10 oeraf yn y DU ers 1963,” rhybuddiodd. 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.