Gaza: Agos at gytundeb i ryddhau gwystlon, medd arweinydd Hamas
Mae arweinydd Hamas, Ismail Haniyeh wedi dweud wrth asiantaethau newyddion eu bod yn "agos at ddod i gytundeb cadoediad".
Yn ôl y cytundeb, fe allai Hamas ryddhau gwystlon sifil fel rhan o drefniant i gyfnewid am Palesteiniaid sydd wedi’u carcharu yn Israel, yn ôl adroddiadau gan asiantaethau newyddion AFP ac Al Jazeera.
Nid oes unrhyw ddiweddariad wedi bod gan Israel.
Mae'r Arlywydd yr UDA Joe Biden wedi nodi’n gynharach fe allai cytundeb i ryddhau gwystlon o Israel a gafodd eu cipio gan Hamas i Gaza fod yn agosach nag erioed.
Yn ôl dirprwy gynghorydd diogelwch cenedlaethol yr Unol Daleithiau, Jon Finer, gallai cytundeb rhwng Israel a Hamas olygu bod “cryn dipyn yn fwy na 12” o wystlon yn cael eu rhyddhau.
Ychwanegodd y byddai’r cytundeb hefyd yn debygol o gynnwys saib estynedig yn yr ymladd, er mwyn dosbarthu cymorth dyngarol.
Dywedodd Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch hefyd bod eu pennaeth wedi cwrdd â Hamas.
Mae’r Groes Goch eisoes wedi helpu i hwyluso cytundebau blaenorol.
Dywed y weinidogaeth iechyd sydd dan reolaeth Hamas fod 13,000 o bobl wedi’u lladd yn Gaza ers i Israel ddechrau ei hymgyrch yn erbyn Hamas.
Dechreuodd Israel yr ymosodiad ar Gaza ar ôl i Hamas groesi'r ffin ar 7 Hydref, gan ladd 1,200 o Israeliaid a chymryd mwy na 200 yn wystlon.