Lansio ymchwiliad llofruddiaeth wedi gwrthdrawiad ym Mae Colwyn
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau fod ymchwiliad llofruddiaeth wedi ei lansio yn dilyn marwolaeth dyn 65 oed ym Mae Colwyn.
Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiadau o wrthdrawiad ar y ffordd Princes Drive ym Mae Colwyn, am 02.15 fore Llun 20 Tachwedd.
Yn dilyn cyfnod byr o chwilio’r ardal, cafodd dyn 33 oed o Fae Colwyn a dyn 42 oed o Widnes eu harestio. Maen nhw'n parhau yn y ddalfa.
Fe wnaeth y llu gyhoeddi fore Llun eu bod hefyd wedi arestio dynes 29 oed dros nos.
Mae teulu'r dyn a fu farw wedi cael gwybod ac yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Sarah-Jayne Williams: "Hoffwn bwysleisio nad oes gennym unrhyw bryderon am ddiogelwch y gymuned ehangach.
"Fe fydd yr heddlu'n parhau i fod yn bresennol yn yr ardal wrth i ni barhau â’n hymchwiliadau, a hoffwn ddiolch i drigolion lleol am y cymorth y maent eisoes wedi’i roi i ni."
Mae ymholiadau yn parhau ac mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sy'n gwybod unrhyw beth am y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw gan ddyfynnu cyfeirnod A183958.