Sawl man nofio poblogaidd yn y DU 'o ansawdd gwael'
Byddai sawl man poblogaidd i nofio yn cael eu disgrifio fel rhai o ansawdd 'gwael' pe bydden nhw yn cael eu henwi yn swyddogol fel dyfroedd ymdrochi, yn ôl adroddiad newydd.
Cyhoeddodd Surfers Against Sewage (SAS), sy'n ymgyrchu am gefnforoedd, llynnoedd ac afonydd glân, eu hadroddiad ansawdd dŵr blynyddol ddydd Mawrth.
Dywedodd y grŵp fod mwy na 40 o lefydd wedi cael eu samplu yn wythnosol drwy gydol tymor ymdrochi 2023.
Dywedon nhw fod yr adroddiad yn edrych ar 'gyflwr ofnadwy' dyfroedd ymdrochi y DU mewn blwyddyn pan gafodd carthion heb eu trin eu rhyddhau mwy na 399,000 o weithiau i ddyfrffyrdd y DU.
Maen nhw hefyd wedi datgelu dogfennau sy'n awgrymu bod Dŵr Cymru wedi defnyddio gorlifoedd brys i ryddhau carthion i ddyfroedd ymdrochi sawl gwaith dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Maent yn dweud bod y Gwbert Emergency Overlow, sy'n effeithio ar ddyfroedd ymdrochi dynodedig ar draeth Poppit Sands, wedi rhyddhau 24 gwaith dros gyfnod o ddwy flynedd.
Ychwanegodd yr adroddiad eu bod wedi derbyn 1,924 o adroddiadau o salwch yn sgil llygredd carthion yn y flwyddyn ddiwethaf, gyda nifer o'r rhain yn arwain at orfod mynd i'r ysbyty, canslo digwyddiadau, colledion ariannol a busnesau yn cau.
'Digon ydy digon'
Dywedodd prif weithredwr SAS, Giles Bristow: "Unwaith eto, mae ein hadroddiad ansawdd dŵr blynyddol yn dangos esgeulustod ein llywodraethau, cwmnïau dŵr a rheoleiddwyr tuag at iechyd ein hafonydd a'n harfordiroedd yn y DU yn ogystal ag iechyd pobl.
"Faint o weithiau fedrwn ni ddweud mai digon ydy digon? Mae'n rhaid i'n harweinwyr ni flaenoriaethu bod yn dryloyw, a sicrhau eu bod yn cadw at gyfreithiau tra'n atal cwmnïau dŵr rhag manteisio ar lygredd."
Wrth ymateb, dywedodd Dŵr Cymru: "Mae'n gamarweiniol i Surfers Against Sewage i ddatgan eu bod wedi datgelu dogfennau sy'n adnabod problemau perfformiad gyda rhai o'n hasedau ni wrth i ni gasglu data tra'n bod ni wedi gwneud rhain yn gyhoeddus ar ein gwefan am flynyddoedd a'u rhannu gyda rheoleiddwyr a rhanddeiliaid.
"Mae hyn hefyd yn anwybyddu'r buddsoddiad rydym ni wedi ei wneud hyd yma i wella ansawdd dŵr yn ein moroedd a'n hafonydd, gan helpu i sicrhau bod gan Gymru 25% o'r traethau Baner Glas y DU tra mai dim ond 15% o'r arfordir sydd gennym ni, ac mae 44% o'n hafonydd ni wedi derbyn statws ecolegol da o'i gymharu â 14% yn Lloegr."