Newyddion S4C

Menyw 91 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ffordd yn Sir Caerffili

20/11/2023
risca.png

Mae menyw 91 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ffordd yn Sir Caerffili. 

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i wrthdrawiad ffordd ar Heol Cromwell yn nhref Rhisga am tua 10:30 ddydd Sadwrn 11 Tachwedd. 

Roedd cerbyd Audi gwyn a cherddwr yn rhan o'r gwrthdrawiad. 

Cafodd y cerddwr, menyw 91 oed, ei chludo i'r ysbyty lle bu farw yn ddiweddarach. 

Mae ei theulu agos yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol. 

Mae ymholiadau yn parhau ac mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sy'n gwybod unrhyw beth am y gwrthdrawiad i gysylltu â  nhw gan ddefnyddio cyfeirnod 2300384522.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.